Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg
Mae’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn cefnogi’r Comisiynydd fel Swyddog Cyfrifyddu wrth fonitro ac adolygu llywodraethu corfforaethol, cyllid, rheoli risg a systemau rheoli mewnol.
Mae’r Pwyllgor yn cynnwys pedwar aelod annibynnol. Mae’r pwyllgor hwn yn cyfarfod yn chwarterol a chaiff cofnodion y cyfarfodydd eu cyhoeddi ar ein gwefan.
Mae’r Pwyllgor yn darparu adroddiad blynyddol i’r Comisiynydd sy’n rhoi crynodeb o waith y Pwyllgor.
Rôl y Pwyllgor
Prif bwrpas y Pwyllgor yw cefnogi’r Comisiynydd, drwy adolygu pa mor gynhwysfawr yw’r systemau sicrwydd a roddwyd ar waith i ddiwallu anghenion ei Swyddog Cyfrifyddu ac adolygu dibynadwyedd ac uniondeb y systemau hyn.
Mae hyn yn cynnwys:
- Rhoi barn ar i ba raddau y caiff y Comisiynydd ei chefnogi i wneud penderfyniadau ac o ran cyflawni ei rhwymedigaethau fel Swyddog Cyfrifyddu (yn enwedig yng nghyswllt trefniadau Llywodraethu ac Adroddiadau Ariannol);
- Rhoi cyngor ac arweiniad i’r Comisiynydd ar y gwaith o gyflawni amcanion y sefydliad; ac
- Craffu ar gynnydd y Comisiynydd yn erbyn y broses o gyflawni’r amcanion y cytunwyd arnynt.
Bydd y Pwyllgor yn cynghori’r Comisiynydd ar y canlynol:
- y prosesau strategol ar gyfer rheoli risg, rheolaeth a llywodraethu a’r Datganiad Llywodraethu;
- y polisïau cyfrifyddu, y cyfrifon ac adroddiad blynyddol y sefydliad, gan gynnwys proses adolygu’r cyfrifon cyn eu cyflwyno i’w harchwilio, lefelau’r gwallau a nodwyd, a llythyr sylwadau’r Swyddog Cyfrifyddu at yr Archwilydd Cyffredinol;
- y gweithgarwch arfaethedig a chanlyniadau archwilio mewnol ac allanol;
- digonolrwydd ymateb rheolwyr i faterion a nodwyd drwy’r gwaith archwilio, gan gynnwys llythyr rheoli’r archwilydd allanol;
- sicrwydd sy’n ymwneud â gofynion llywodraethu corfforaethol y sefydliad;
- (lle bo’n briodol) cynigion ar gyfer tendro am wasanaethau Archwilio Mewnol neu ar gyfer prynu gwasanaethau nad ydynt yn cael eu harchwilio gan gontractwyr sy’n darparu gwasanaethau archwilio;
- polisïau gwrth-dwyll a gwyngalchu arian a phrosesau chwythu’r chwiban.
Bydd y Pwyllgor hefyd yn adolygu ei effeithiolrwydd ei hun bob blwyddyn ac yn cyflwyno canlyniadau’r adolygiad hwnnw i’r Comisiynydd.
Nid yw Aelodau’r Pwyllgor yn cael eu cyflogi gan y Comisiynydd ac nid ydynt yn cymryd rhan ym musnes y sefydliad o ddydd i ddydd nac yn cyflawni unrhyw swyddogaethau gweithredol.
Aelodau’r Pwyllgor Archwilio yw:
Claire Bevan (Cadeirydd)
Mae Claire yn Nyrs Gyffredinol Gofrestredig gyda 40 mlynedd o brofiad. Ym mis Rhagfyr 2019, gwnaeth ymddeol fel Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio ac Ansawdd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Mae ganddi brofiad helaeth o weithio ar draws Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd yn GIG Cymru fel rheolwr ac uwch arweinydd proffesiynol, gan weithio ar draws amrywiaeth o feysydd clinigol arbenigol a swyddogaethau corfforaethol, yn gymwys addysg, archwilio, ymchwil a datblygu, profiad cleifion, pryderon, diogelu, atal a rheoli haint, sicrhau ansawdd a gwella, iechyd a diogelwch a rheoli risg.
Dechreuodd ei gyrfa’n arbenigo fel Nyrs y Galon; gyda diploma mewn Nyrsio, Gradd Baglor mewn Nyrsio a Msc mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwella Gwasanaethau Iechyd (Prifysgol Birmingham). Mae Claire yn Rheolwr a Mentor Gweithredol (lefel 7) ac yn Ymarferydd NLP.
Roess Claire Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer digideiddio’r rhaglen dogfennau nyrsio yn GIG Cymru, sef rhaglen o waith sy’n bwysig ar gyfer datblygu cofnodion cleifion electronig.
Mae ei thaith bersonol dros y blynyddoedd diwethaf fel gofalwraig dros aelod o’i theulu sy’n byw gyda hi, sydd â chlefyd Alzheimer’s, wedi arwain ati’n bod yn eiriolwr ar gyfer pobl hŷn a gofalwyr. Mae Claire yn frwdfrydig am wneud gwahaniaeth ar gyfer pobl hŷn a defnyddio ei phrofiad fel aelod o’r Pwyllgor Sicrwydd Archwilio a Risg gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Julia Evans
Mae Julia wedi gweithio yn y sector cyllid cyhoeddus ers 35 mlynedd – yn gyntaf fel archwilydd allanol am 20 mlynedd, cyn symud i faes cyfrifyddu yn y sector cyhoeddus.
Ar ôl cwblhau gradd BA (Anrh) mewn Gweinyddu Cyhoeddus yn 1983, ymunodd â’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn Llundain fel rhan o gynllun hyfforddiant i raddedigion y Swyddfa, lle bu’n astudio tuag at fod yn aelod o’r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth. Cafodd gymhwyster CIPFA yn 1987, ar ôl symud i swyddfeydd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru. Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd yn ymwneud ag archwilio cyfrifon ariannol yn bennaf.
Cafodd Julia ei phenodi’n Ddirprwy Brif Weithredwr (Cyllid, Personél a Gwasanaethau Corfforaethol) Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC) ym mis Ionawr 2014, lle bu’n gyfrifol am adrodd, monitro a chynllunio ariannol; rheoli ariannol; archwilio; yr holl faterion AD gan gynnwys datblygu polisïau AD, hyfforddi a datblygu staff, yn ogystal â llety a materion cysylltiedig. Fel rhan o’r Uwch Dîm Rheoli, roedd hefyd yn gyfrifol am reolaeth strategol y Cyngor. Cafodd CyngACC ei ailstrwythuro a chafodd ei ailenwi’n Gyngor y Gweithlu Addysg ym mis Ebrill 2015. Fe wnaeth Julia barhau yn ei swydd fel Dirprwy Brif Weithredwr (Cyllid, AD a Gwasanaethau Corfforaethol) nes iddi ymddeol o’r swydd honno ym mis Rhagfyr 2018.
Chris Knight
Mae Chris yn gyfrifydd CIPFA cymwysedig gyda thros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad mewn llywodraeth leol a llywodraeth ganolog, a hefyd yn y sectorau addysg ac elusennol. Mae hyn wedi cynnwys gweithio yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru ers blynyddoedd lawer, a threulio rhywfaint o amser yn gweithio dramor, gan gynnwys gweithio i elusen cymorth ryngwladol.
Mae gan Chris brofiad sylweddol mewn gwaith archwilio, ar ôl bod yn Brif Archwilydd Mewnol i dri sefydliad mawr. Mae hefyd wedi cael profiad ymarferol sylweddol ym maes rheoli ariannol, ar ôl bod yn Gyfarwyddwr Cyllid i ddau sefydliad arall. Ei rôl ddiweddaraf yw Cyfarwyddwr Cyllid ac Ysgrifennydd Cwmni ar gyfer elusen ranbarthol sy’n gweithio i fynd i’r afael â digartrefedd ymysg pobl ifanc.
David Powell FCPFA
Mae gan David brofiad helaeth o’r sector cyhoeddus trwy Gynghorau Unedol, Cynghorau Sir a Chynghorau Dosbarth yng Nghymru a Lloegr. Am dros 10 mlynedd, roedd yn Gyfarwyddwr Cyllid ac roedd hefyd yn arwain amrywiaeth o wasanaethau a meysydd corfforaethol.
O 2013, nes iddo adael llywodraeth leol yn 2019, roedd yn gweithio i Gyngor Sir Powys fel Cyfarwyddwr Strategol Adnoddau, Prif Weithredwr dros dro a Dirprwy Brif Weithredwr. Mae hefyd wedi gweithio yng Nghyngor Swydd Henffordd, Cyngor Sir Swydd Gaerloyw a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, lle’r oedd yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Addysg.
Fe gafodd wybodaeth am y problemau sy’n wynebu pobl hŷn trwy weithio mewn adrannau gwasanaethau cymdeithasol ac fel Aelod Bwrdd ar gyfer Sefydliad Elusennol yn y sector gofal pobl hŷn. Yn ychwanegol i hyn, mae ganddo sawl blwyddyn o brofiad fel Cyfarwyddwr Anweithredol, gan gynnwys bod yn Gadeirydd y Gymdeithas Dai Two Rivers yn Swydd Gaerloyw lle’r oedd gwasanaethau ar gyfer pobl hyn yn prif flaenoriaeth.
Trwy gydol ei yrfa, mae David wedi ceisio datblygu a chodi ymwybyddiaeth o gyllid llywodraethau lleol a gwasanaethau cymunedol drwy eu cynrychioli ar baneli Llywodraeth cenedlaethol, ac ar hyn o bryd mae’n aseswr Cymdeithas Llywodraeth Leol ar gyfer safonau gwasanaethau cyngor, cyllid a llywodraethu. Mae’n aelod o Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ers amser hir ac mae’n gyn-arholwr hefyd. Daeth yn Gymrawd y Sefydliad yn 2018.
Sian Richards
Ymunodd Sian â’r GIG yn 2002 fel Rheolwr Adnoddau Dynol. Ers hynny, mae wedi dal nifer o swyddi amrywiol yn y GIG, gan gynnwys rheoli rhaglenni gwella gwasanaethau, a swyddi rheoli gweithredol a chyffredinol ar draws y gwasanaethau aciwt, sylfaenol a chymunedol.
Yn 2010, ymunodd â’r Gyfarwyddiaeth Ddigidol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, gyda chyfrifoldeb am amryw o adrannau a systemau digidol, llywodraethu gwybodaeth, cofnodion iechyd, codio clinigol ac ansawdd data. Yn 2018, penodwyd Sian yn Ddirprwy Brif Swyddog Digidol gyda chyfrifoldeb dros strategaeth ddigidol, gan gynnwys rhaglenni lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Yn 2021, cafodd ei phenodi i swydd Cyfarwyddwr Datblygu Digidol yn AaGIC. Yn ei swydd, mae hi’n gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno strategaeth ddigidol a data AaGIC sy’n nodi’r weledigaeth a’r dull gweithredu i ddarparu atebion arloesol a hygyrch o ansawdd uchel yn y meysydd digidol a data, ar yr un pryd â chefnogi’r gwaith o ddatblygu gweithlu sydd â sgiliau digidol sy’n gwella gofal ac iechyd y boblogaeth.
Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg: Cylch Gorchwyl
Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg: Adroddiadau Blynyddol
Eitemau wedi’u llwytho i lawr
Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio: Medi 2024
- Maint y ffeil
- 0.18MB
- Math o ffeil
- PDF Document
Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio: Gorffennaf 2024
- Maint y ffeil
- 0.29MB
- Math o ffeil
- PDF Document
Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio: Ebrill 2024
- Maint y ffeil
- 0.27MB
- Math o ffeil
- PDF Document
Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio: Ionawr 2024
- Maint y ffeil
- 0.21MB
- Math o ffeil
- PDF Document
Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio: Hydref 2023
- Maint y ffeil
- 0.23MB
- Math o ffeil
- PDF Document
Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio: Medi 2023
- Maint y ffeil
- 0.28MB
- Math o ffeil
- PDF Document
Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio: Gorffennaf 2023
- Maint y ffeil
- 0.2MB
- Math o ffeil
- PDF Document
Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio: Ebrill 2023
- Maint y ffeil
- 0.14MB
- Math o ffeil
- MS Word Document
Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio: Ionawr 2023
- Maint y ffeil
- 0.14MB
- Math o ffeil
- MS Word Document
Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio: Hydref 2022
- Maint y ffeil
- 0.14MB
- Math o ffeil
- MS Word Document
Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio: Gorffenaf 2022
- Maint y ffeil
- 0.13MB
- Math o ffeil
- MS Word Document
Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio: Ebrill 2022
- Maint y ffeil
- 0.14MB
- Math o ffeil
- MS Word Document
Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio: Ionawr 2022
- Maint y ffeil
- 0.12MB
- Math o ffeil
- MS Word Document
Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio: Tachwedd 2021
- Maint y ffeil
- 0.11MB
- Math o ffeil
- MS Word Document
Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio: Ebrill 2021
- Maint y ffeil
- 0.11MB
- Math o ffeil
- MS Word Document
Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio: Chwefror 2021
- Maint y ffeil
- 0.11MB
- Math o ffeil
- MS Word Document
Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio: Hydref 2020
- Maint y ffeil
- 0.1MB
- Math o ffeil
- MS Word Document