Angen Help?

Rhian Bowen-Davies

Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Dechreuodd Rhian ei gyrfa fel swyddog heddlu, cyn ymgymryd â rolau arwain uwch yn y trydydd sector, gan gynnwys bod yn Brif Weithredwr Calan DVS, lle enillodd sawl gwobr genedlaethol i gydnabod ei harweinyddiaeth ragorol.

Penodwyd hi’n Gynghorydd Cenedlaethol cyntaf Cymru ar gyfer mynd i’r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn 2015. Yn y rôl honno, bu’n darparu cyngor annibynnol ac yn llunio a llywio datblygiadau deddfwriaethol, strategaeth a pholisi, yn ogystal â sbarduno gwelliannau o ran atal, amddiffyn a chefnogi pawb y mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio arnynt.

Cyn iddi ymgymryd â’i swydd fel Comisiynydd, cafodd Rhian ei chydnabod fel Cadeirydd Arbenigol yr Adolygiadau Dynladdiadau Domestig sy’n ymwneud â phobl hŷn. Bu hefyd yn gweithio’n agos gyda chyrff cyhoeddus a sefydliadau’r trydydd sector ar hyd a lled Cymru fel ymgynghorydd annibynnol, yn darparu amrywiaeth eang o brosiectau ac ymchwil ar eu rhan er mwyn gwella polisi ac ymarfer.

Fel Comisiynydd, mae Rhian yn awyddus i estyn allan a chlywed yn uniongyrchol gan bobl hŷn o bob math o gymunedau ym mhob cwr o Gymru, yn enwedig y rhai nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed yn aml – bydd hyn yn helpu i sicrhau bod anghenion pobl hŷn yn cael eu trin yn fwy effeithiol a bod eu hawliau’n cael eu diogelu.

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges