Neges gan y Comisiynydd
Mae’n anrhydedd ac yn fraint gwasanaethu fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Mae’r rôl annibynnol hon yn unigryw o ran ei phwrpas i hyrwyddo a hybu hawliau pobl hŷn, ac fel Comisiynydd byddaf yn gwrando ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw ac yn sicrhau bod eu lleisiau a’u profiadau yn rhan annatod o sicrhau newid cadarnhaol.
Mae ansawdd ein bywydau wrth i ni heneiddio yn cael ei ddylanwadu gan amrywiaeth o ffactorau fel ein hiechyd, ein tai a’n hincwm, yn ogystal â lle rydym yn byw a’r mathau o gymorth, gwasanaethau a rhwydweithiau cymunedol sydd ar gael i ni. Felly rwy’n awyddus i gyfarfod pobl hŷn ym mhob rhan o Gymru i ddeall yr amrywiaeth o heriau maen nhw’n eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd ac i glywed sut gellid, yn eu barn nhw, wneud pethau’n wahanol i’w galluogi a’u cefnogi i fyw a heneiddio’n dda.
Rwy’n cydnabod yr heriau sylweddol sy’n wynebu pobl hŷn ar hyn o bryd, gan ei gwneud yn fwyfwy anodd iddynt gael gafael ar y gwasanaethau a’r cymorth hanfodol sydd eu hangen arnynt. Nid wyf yn bychanu difrifoldeb y materion hyn ac, o’r cychwyn cyntaf, byddaf yn llais cryf dros bobl hŷn, gan sicrhau bod eu profiadau a’u pryderon yn cael eu cyfleu’n uniongyrchol i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ac yn llunio polisïau.
Mae’r materion hyn, ynghyd â’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus a materion ehangach fel allgáu digidol, unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol, yn arwain at anfanteision lluosog i bobl hŷn, gan ei gwneud yn fwyfwy anodd iddynt gael gafael ar y gwasanaethau a’r cymorth hanfodol sydd eu hangen arnynt. Nid wyf yn bychanu difrifoldeb y materion hyn ac, o’r cychwyn cyntaf, byddaf yn llais cryf dros bobl hŷn, gan sicrhau bod eu profiadau a’u pryderon yn cael eu cyfleu’n uniongyrchol i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ac yn llunio polisïau.
Drwy weithio gyda phobl hŷn ac ar eu rhan, edrychaf ymlaen at wneud cyfraniad cadarnhaol; diogelu hawliau a herio gwahaniaethu. Gyda’n gilydd, byddwn yn sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed ar lefel leol a chenedlaethol, a fydd yn hanfodol i greu Cymru sy’n arwain y ffordd o ran grymuso pobl hŷn, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a galluogi pawb i fyw a heneiddio’n dda.
Rhian Bowen-Davies
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Ein Blaenoriaethau
Rhagor o wybodaeth am waith am ein blaenoriaethau.
Rhagor o wybodaethRhaglen waith y Comisiynydd
Rhagor o wybodaeth am waith a blaenoriaethau’r Comisiynydd ar gyfer 2023-24.
Darllen y rhaglen waithPhwerau Cyfreithiol
Mae gan y Comisiynydd set unigryw o bwerau cyfreithiol i gefnogi ei gwaith i wella bywydau pobl hŷn.
Rhagor o wybodaethTîm y Comisiynydd
Mae’r Comisiynydd yn cael ei chefnogi gan dîm bychan o staff sy’n gweithio ar ei rhan i gyflawni ei blaenoriaethau.
Cyfarfod y TîmArchwilio a Sicrhau Risg
Mae’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn cefnogi’r Comisiynydd wrth fonitro ac adolygu llywodraethu corfforaethol, rheoli risg a systemau rheoli mewnol.
Rhagor o wybodaeth