Angen Help?

Arweinydd Hawliau a Chydraddoldeb

An older woman smiling while taking to another person

Arweinydd Hawliau a Chydraddoldeb

Cyflog: £41,704 – £47,840 y flwyddyn
Math o Gontract: Parhaol Amser llawn (37 awr yr wythnos) neu Ran Amser (4 diwrnod yr wythnos)
Lleoliad: Hyblyg – Swyddfa ym Mae Caerdydd

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm y Comisiynydd fel Arweinydd Hawliau a Chydraddoldeb a gwneud gwahaniaeth parhaol i fywydau pobl hŷn yng Nghymru.

Bydd yr Arweinydd Hawliau a Chydraddoldeb yn chwarae rôl ganolog wrth arwain y gwaith o ddiogelu, datblygu a hyrwyddo hawliau a chydraddoldeb pobl hŷn.

Mae’r Comisiynydd yn chwilio am unigolyn a fyddai’n mwynhau’r cyfle i amddiffyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn, gwella cydraddoldeb a mynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail oedran.

Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Dyddiad Cau: Dydd Llun 4 Medi 5.00yp

Os byddwch chi ar y rhestr fer, mae’n rhaid i chi fod ar gael i ddod i gyfweliad ar ddydd Mercher 20 Medi neu ddydd Iau 21 Medi. 

Cyfweliadau gwarantedig

Rydym am i’n gweithlu fod yn fwy cynrychioliadol o bob rhan o gymdeithas ar bob lefel yn y sefydliad.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan ystod amrywiol o bobl, o bob cefndir a chyda llawer o sgiliau, profiadau a safbwyntiau gwahanol. Rydym yn arbennig o awyddus i annog ceisiadau gan bobl anabl a phobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, oherwydd nad oes cynrychiolaeth ddigonol o’r grwpiau hyn yn ein gweithlu ar hyn o bryd, i gynyddu ein hamrywiaeth o feddwl a phrofiadau uniongyrchol.

Byddwn ni’n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, ac ymgeiswyr anabl, sy’n cyflwyno cais ac yn bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.

Os hoffech gael gwarant o gyfweliad, soniwch yn glir am eich profiad bywyd ar ein ffurflen gais.

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges