Pwy ydyn ni a beth rydyn ni’n ei wneud
Mae’r Comisiynydd yn llais annibynnol ac yn hyrwyddwr dros bobl hŷn yng Nghymru.
Penodwyd Rhian Bowen-Davies yn Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar 30 Medi 2024.
Mae rôl y Comisiynydd yn seiliedig ar gyfres o bwerau cyfreithiol unigryw i’w chefnogi i adolygu gwaith cyrff cyhoeddus a’u dal i gyfrif pan fo angen.
Mae’r Comisiynydd yn gweithio dros Gymru sy’n arwain y ffordd o ran grymuso pobl hŷn, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb, a galluogi pawb i fyw a heneiddio’n dda.

Gwerthoedd
Mae ein gwerthoedd yn rhan o bopeth a wnawn.
Mae’r gwerthoedd hyn yn hybu diwylliant y sefydliad ac yn sail i’n hamcanion perfformiad personol.
- Eofn ac Uchelgeisiol
- Yn barod i addasu ac ymateb
- Teg a Chynhwysol
- Parchus ac yn canolbwyntio ar y Person
- Gonest ac Atebol
Tîm y Comisiynydd
Mae’r Comisiynydd yn cael ei chefnogi gan dîm bychan o staff sy’n gweithio ar ei rhan i gyflawni ei blaenoriaethau.
Cyngor a Chymorth: mae’r gwasanaeth hwn yn cysylltu pobl hŷn â chymorth a gwasanaethau ledled Cymru ac yn helpu i sicrhau bod eu hawliau yn cael eu cynnal. Mae’r wybodaeth, y cymorth a’r arweiniad y mae’r tîm cyngor a chymorth yn eu rhoi yn grymuso pobl hŷn a’u teuluoedd yn uniongyrchol ac yn eu helpu i ddeall a mynnu eu hawliau.
Polisi: arbenigwyr pwnc sy’n gweithio gyda chyrff cyhoeddus a sefydliadau sy’n gysylltiedig ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Diogelu, Hawliau a Chydraddoldeb a Chymunedau Oed-Gyfeillgar.
Cyfathrebu: hyrwyddo gwaith y Comisiynydd a sicrhau cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol â phobl hŷn a rhanddeiliaid ar ffurf sylw yn y cyfryngau ac ymgyrchoedd, y cyfryngau cymdeithasol a gweithgareddau marchnata.
Gwasanaethau Corfforaethol: sicrhau bod y Comisiynydd yn cydymffurfio’n llawn â’i dyletswyddau statudol o ran systemau a rheolaethau ariannol, diogelu data ac iechyd a diogelwch yn ogystal â chefnogi’r gwaith o weithredu cyllid ac adnoddau o ddydd i ddydd ar draws y sefydliad.
Darganfod mwy am Dîm y ComisiynyddDiwylliant
Trwy ddiwylliant ein gweithle, rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd lle mae unigolion yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a’u grymuso i gyfrannu o’u gorau.
Isod fe welwch ragor o wybodaeth am yr egwyddorion, yr arferion, a’r buddion sy’n llywio ein diwylliant ac yn helpu i wneud Swyddfa’r Comisiynydd yn lle gwych i weithio ynddo.
✓ Amgylchedd gwaith
Cyfeiriad ein swyddfa: Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL. Mae o fewn pellter cerdded byr i orsaf drenau Bae Caerdydd a nifer o lwybrau bysiau Caerdydd. Mae pob swydd yn cynnig gweithio hybrid, gyda’r cyfle i weithio o’n swyddfa fodern ym Mae Caerdydd, gartref neu gymysgedd o’r ddau yn dibynnu ar anghenion y swydd.
✓ Eich cefnogi chi a’ch teulu
Mae gan staff llawn amser hawl i 31 diwrnod o wyliau blynyddol â thâl yn ogystal â 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus a diwrnodau braint y flwyddyn. Mae gan staff rhan-amser hawl i wyliau ar sail pro rata.
Mae’r Comisiynydd yn cynnig Amser Hyblyg ac yn darparu patrymau gweithio hyblyg a rhan-amser pan fo hynny’n bosibl i helpu i ddiwallu anghenion y busnes yn y ffordd orau, cyflawni amcanion y Comisiynydd, a galluogi aelodau o staff i weithio yn ôl patrwm sy’n eu cefnogi i gynnal cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.
Mae gennym amrywiaeth o bolisïau ar waith sy’n canolbwyntio ar gefnogi staff sy’n profi gwahanol ddigwyddiadau bywyd, fel dechrau teulu, byw gyda’r menopos, gofalu am anwyliaid neu brofedigaeth. Rydyn ni’n ystyriol o deuluoedd a gofalwyr gyda phatrymau gweithio hyblyg, gweithio hybrid a pholisïau penodol ar waith i’ch cefnogi chi.
Mae gan yr holl staff fynediad at Raglen Cymorth i Weithwyr sydd ar gael 24/7, ac sy’n darparu gwasanaethau cwnsela cyfrinachol am ddim ac arweiniad ar amrywiaeth eang o faterion fel cyllid, perthnasoedd neu brofedigaeth.
✓ Llesiant
Mae gan y Comisiynydd nifer o bolisïau ac arferion gweithle ar waith i greu a chynnal amgylchedd a diwylliant yn y gweithle sy’n hyrwyddo ac yn cefnogi iechyd a llesiant yr holl staff.
Mae polisïau ac arferion yn cynnwys y rheini sy’n canolbwyntio ar iechyd a llesiant corfforol fel y cynllun Beicio i’r Gwaith a defnyddio Cyfarpar Sgrin Arddangos yn ddiogel, ochr yn ochr â’r rheini sy’n cefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a llesiant meddyliol.
Yn ein harolwg staff diweddaraf (2024), roedd 100% o’r staff yn cytuno’n gryf neu’n cytuno â’r canlynol:
- Dwi’n teimlo bod y sefydliad wedi ymrwymo i greu a chynnal gweithle sy’n hyrwyddo ac yn cefnogi iechyd a llesiant yr holl staff.
- Dwi’n teimlo bod fy rheolwr llinell yn fy nghefnogi
- Mae fy rheolwr yn ystyriol o fy mywyd y tu allan i’r gwaith
✓ Buddion ariannol
Mae cyflogeion yn cael eu cofrestru’n awtomatig â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil gyda chyfraniadau pensiwn cyflogwr hael, achodiad cyflog cynyddrannol, mynediad at apwyntiadau gofal llygaid am ddim, cynllun beicio i’r gwaith sy’n darparu gostyngiadau ar brynu beiciau ac amrywiaeth o arbedion a gostyngiadau drwy ein partner buddion staff.
✓ Datblygiad proffesiynol
Cyfleoedd wedi’u teilwra i chi a’ch rôl, sy’n cefnogi eich cynnydd a’ch twf, fel presenoldeb mewn gweithdai mewnol a sesiynau hyfforddi, bod yn bresennol mewn cynadleddau neu ddigwyddiadau neu gyrsiau allanol. Fel cyflogwr dwyieithog, byddwch hefyd yn cael y cyfle i ddysgu Cymraeg neu i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.
✓ Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae cydraddoldeb a hawliau dynol wedi’u gwreiddio yng ngwaith y Comisiynydd a’r sefydliad drwyddo draw ac mae hyn yn ymestyn i sicrhau gweithle sy’n darparu cydraddoldeb, urddas a pharch i bob cyflogai. Mae ymrwymiad y Comisiynydd i gydraddoldeb wedi’i nodi yn ei Chynllun Cydraddoldeb Strategol. Mae’r Comisiynydd yn sicrhau, drwy ei gwaith, bod y Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal.
Yn ein harolwg staff diweddaraf (2024), roedd 100% o’r staff yn cytuno’n gryf neu’n cytuno â’r canlynol:
- Dwi’n meddwl bod y sefydliad yn parchu gwahaniaethau unigol (ee diwylliannau, arddulliau gweithio, cefndiroedd, syniadau ac ati)
- Mae’r bobl dwi’n gweithio gyda nhw yn fy nhrin i gyda pharch

Cyfleoedd Cyfredol
Nid oes unrhyw swyddi gwag ar hyn o bryd