Angen Help?

Rhaglen waith y Comisiynydd

Llais a hyrwyddwr annibynnol ar ran pobl hŷn

Fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, rydw i eisiau gweld Cymru’n wlad lle mae pobl hŷn yn cael eu gwerthfawrogi, hawliau’n cael eu cynnal a neb yn cael ei adael ar ôl.

I gyflawni’r weledigaeth hon, rwy’n cymryd camau pellach ar bedair blaenoriaeth allweddol: gwarchod hawliau pobl hŷn, rhoi diwedd ar oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran, atal cam-drin pobl hŷn a galluogi pawb i heneiddio’n dda.

Fel y gwelwch isod, bydd fy nhîm a minnau’n bwrw ymlaen â rhaglen waith sylweddol yn ystod 2023-24, sy’n adeiladu ar y cynnydd a wnaed mewn meysydd allweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan ganolbwyntio hefyd ar faterion sy’n dod i’r amlwg ac ymateb i bryderon newydd sy’n cael eu codi gan bobl hŷn.

Ochr yn ochr â hyn, byddaf yn parhau i ddarparu cymorth a chefnogaeth i bobl hŷn drwy fy Ngwasanaeth Cyngor a Chymorth, yn ychwanegol at deithio ledled Cymru i gwrdd a siarad â phobl hŷn a chlywed am y mathau o gamau gweithredu, grymuso a chymorth a fyddai’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w bywydau.

Rwy’n gwybod bod Swyddfa’r Comisiynydd yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr gan bobl hŷn, ac ar y cyd â fy nhîm byddaf yn parhau i ddylanwadu
ar bolisi, ymgysylltu â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, hyrwyddo arferion da a, lle bo angen, dal cyrff cyhoeddus i gyfrif.

Byddaf i a fy nhîm yn parhau i ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i bobl hŷn ledled Cymru, a hoffem ddiolch i bawb rydyn ni’n gweithio gyda nhw am yr ysbrydoliaeth, yr her a’r gefnogaeth rydych chi’n ei darparu.

Heléna Herklots CBE
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Darllenwch Rhaglen Waith 2023-24 y Comisiynydd

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges