6. Rhestrau a chofrestrau
6.1 Rhoddion a Lletygarwch
Mae’n hollbwysig bod y Comisiynydd yn parhau, ac yn cael ei hystyried, yn annibynnol. Fel rhan o hyn, mae’n rhaid i staff y Comisiwn ymddangos yn ddiduedd ac amhleidiol.
Er mwyn osgoi’r posibilrwydd o unrhyw wrthdaro buddiannau tybiedig neu wirioneddol, neu honiad o lwgrwobrwyo neu gyfaddawdu, mae’r Comisiwn yn cadw cofrestr o unrhyw nwyddau a lletygarwch sy’n cael eu derbyn a’u gwrthod, yn ystod ei dyletswyddau swyddogol.
Cofrestr Rhoddion a Lletygarwch 2023-24
Cofrestr Rhoddion a Lletygarwch 2022-23
Cofrestr Rhoddion a Lletygarwch 2020-21
6.2 Cofrestrau Buddiannau
Mae’n ofynnol i’r Comisiynydd, aelodau’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Ansawdd, a’i holl staff lofnodi Cod Ymddygiad bob blwyddyn, sy’n ymgorffori Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus.
Nid yw’r Comisiynydd wedi datgan unrhyw wybodaeth a allai achosi gwrthdaro buddiannau.