Angen Help?

Safonau’r Gymraeg

Safonau’r Gymraeg

Ers 25 Ionawr 2017, mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi ymrwymo i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, fel y nodir gan Lywodraeth Cymru dan Adran 44 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Mae’r safonau’n nodi nifer y ffyrdd y mae’n rhaid i’r Comisiynydd ddarparu a hyrwyddo gwasanaethau drwy’r Gymraeg a hwyluso ac annog y defnydd ohoni yn y gweithle.

Mae Safonau’r Gymraeg sy’n berthnasol i’r Comisiynydd wedi’u rhannu’n bedwar categori gwahanol:

  • Cyflenwi Gwasanaethau
  • Llunio Polisi
  • Gweithredu
  • Cadw cofnodion

Mae’r Safonau y mae’n rhaid i’r Comisiynydd gydymffurfio â nhw ar gael yma.

Mae’r Comisiynydd wedi nodi sut bydd y sefydliad yn cydymffurfio â’r Safonau, sydd ar gael yma.

Adroddiadau Blynyddol

Defnyddio’r Gymraeg yn Fewnol

Mae’r polisi hwn yn nodi trefniadau mewnol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar gyfer defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle ac yn manylu ar ein hymrwymiad i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r iaith. .

Asesiadau Safonau 80

Mae Safonau 80 ac 82 o’r Safonau Iaith Gymraeg yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiynydd gynnal asesiad o’r angen i gynnig cwrs addysg yn Gymraeg. Rhaid i’r asesiadau hyn gael eu cyhoeddi wedyn ar wefan y Comisiynydd.

Asesiadau wedi’u Cwblhau

Cwynion ynglŷn â’r Gymraeg

Bydd unrhyw gŵyn yn ymwneud â chydymffurfiaeth y Comisiynydd â Safonau’r Gymraeg neu fethiant ar ran y Comisiynydd i ddarparu gwasanaeth dwyieithog yn cael ei adrodd i’r Comisiynydd a bydd yn dilyn Polisi Cwynion o ran Cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.

Mae gennych hawl hefyd i gyfeirio unrhyw gwynion am y Gymraeg i Gomisiynydd y Gymraeg.

Pobl Hŷn a’r Gymraeg

Mae’r Gymraeg yn chwarae rhan amlwg ym mywydau llawer o bobl hŷn ledled Cymru. Mae’n hollbwysig fod y Comisiynydd yn gallu cynnig gwasanaethau a chymorth i bobl hŷn yn eu dewis iaith.

Mae tua 219,000 o bobl hŷn yng Nghymru (26%) yn siarad rhywfaint o Gymraeg, mae 88,000 o bobl hŷn yn rhugl yn y Gymraeg, ac mae 34,000 arall yn siarad ‘cryn dipyn’ o Gymraeg. Mae hyn yn golygu bod tua 15% o bobl hŷn yng Nghymru yn siarad ‘mwy nag ychydig’ o Gymraeg.(1), (2)

Mae 28% o siaradwyr Cymraeg rhugl dros 65 oed – amcangyfrif o 21,000 o bobl hŷn – yn teimlo’n fwy cyfforddus yn siarad Cymraeg na’r Saesneg. (3) Mae’n hanfodol bod hyn yn cael ei ystyried wrth gynllunio gwasanaethau, yn enwedig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio’r iaith o’u dewis.(4) Gall hyn fod yn arbennig o bwysig i bobl hŷn sy’n byw gyda dementia, a allai golli eu sgiliau ail iaith (Saesneg) wrth i’w dementia ddatblygu a dim ond drwy gyfrwng y Gymraeg y gallant gyfathrebu.(5)


(1) Arolwg Cenedlaethol Cymru Llywodraeth Cymru (2021) (arolwg chwarterol): Mai 2020 i Mawrth 2021. Ar gael yn: Arolwg Cenedlaethol Cymru: Mai 2020 i Fawrth 2021 | LLYW.CYMRU

(2) StatsCymru (2021) Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth – Gallu darllen, ysgrifennu a deall Cymraeg llafar n ôl oedran, rhyw a blwyddyn. Ar gael yn: https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Welsh-Language/Annual-Population-Survey-Welsh-Language/welsh-skills-by-age-sex

(3) StatsCymru (2020) Y ganran o’r bobl sy’n gallu siarad Cymraeg (gan gynnwys y canran na allant siarad Cymraeg a’r canran gyda rhywfaint o allu i siarad Cymraeg) yn ôl awdurdod lleol. Ar gael yn: https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/National-Survey-for-Wales/Cultureand-Welsh-Language/percentageofadultswhospeakwelshinclthepercentagethatcannotspeakwelshandhavesomewelshspeakingability-bylocalauthority

(4) Llywodraeth Cymru, (2015), Arolwg Defnydd Iaith yng Nghymru, 2013-15, 26 Tachwedd 2015. Ar gael yn: https://llyw.cymru/arolwgdefnydd-iaith-2013-i-2015

(5) Cymdeithas Alzheimer’s Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg (2018) Welsh Speakers Dementia Care, 7 Tachwedd 2018

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges