Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Personau Hŷn
Cafodd Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Personau Hŷn eu mabwysiadu gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig (Penderfyniad 46/91) ar 16 Rhagfyr 1991. Cafodd llywodraethau eu hannog i’w hymgorffori yn eu rhaglenni cenedlaethol pryd bynnag y byddai modd. Mae yna ddeunaw o egwyddorion, a all gael eu grwpio o dan bum thema: annibyniaeth, cyfranogi, gofal, hunangyflawniad ac urddas.
Mae’r Egwyddorion yn cydnabod:
- yr amrywiaeth aruthrol yn sefyllfaoedd pobl hŷn, nid yn unig rhwng gwledydd ond o fewn gwledydd a rhwng unigolion;
- bod mwy o unigolion yn cyrraedd oedran sylweddol a hynny mewn iechyd gwell nag erioed o’r blaen;
- bod ymchwil wyddonol yn gwrthbrofi llawer o stereoteipiau ynghylch dirywiad anochel ac anwrthdroadwy gydag oedran;
- bod rhaid rhoi cyfleoedd, mewn byd sydd â nifer a chyfran gynyddol o bobl hŷn, i bobl hŷn barod a galluog gymryd rhan yng ngweithgareddau parhaus y gymdeithas a chyfrannu atyn nhw;
- bod y straen ar fywyd teuluol mewn gwledydd datblygedig a gwledydd sy’n datblygu fel ei gilydd yn gofyn am gymorth i’r rhai sy’n darparu gofal i bobl hŷn fregus.
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i roi sylw i’r Egwyddorion hyn ac mae’n dda ganddi wneud hynny. Dyma Egwyddorion a ddylai gael eu hystyried gan bob sefydliad a’u cymryd fel fframwaith ar gyfer sut maen nhw’n trin pobl hŷn.
bod y straen ar fywyd teuluol mewn gwledydd datblygedig a gwledydd sy’n datblygu fel ei gilydd yn golygu bod rhaid wrth gefnogaeth i’r sawl sy’n darparu gofal i bobl hŷn bregus.
Mae Comisiwn Pobl Hŷn Cymru yn cymeradwyo’r egwyddorion hyn ac yn credu y dylai pob sefydliad eu hystyried fel fframwaith ar gyfer trin pobl hŷn.
Annibyniaeth
- Dylai personau hŷn gael mynediad at fwyd, dŵr, cysgod, dillad a gofal iechyd digonol a hynny drwy ddarpariaeth ar gyfer incwm, cymorth y teulu a’r gymuned a hunangymorth.
- Dylai personau hŷn gael y cyfle i weithio neu i gael mynediad at gyfleoedd eraill i gynhyrchu incwm.
- Dylai personau hŷn gael cyfranogi wrth benderfynu pa bryd i dynnu’n ôl o’r gweithlu a pha mor gyflym.
- Dylai personau hŷn gael mynediad at raglenni priodol o addysg a hyfforddiant.
- Dylai personau hŷn gael byw mewn amgylcheddau sy’n ddiogel ac a all gael eu haddasu at ddewisiadau personol a newidiadau mewn galluoedd.
- Dylai personau hŷn allu byw gartref cyn hired ag y bo modd.
Cyfranogi
- Dylai personau hŷn barhau i gael eu hintegreiddio yn y gymdeithas, cymryd rhan weithgar wrth ffurfio a gweithredu polisïau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar eu llesiant a rhannu eu gwybodaeth a’u medrau â’r cenedlaethau iau.
- Dylai personau hŷn gael chwilio am gyfleoedd a datblygu cyfleoedd i wasanaethu’r gymuned ac i wasanaethu fel gwirfoddolwyr mewn safleoedd sy’n briodol i’w diddordebau a’u galluoedd.
- Dylai personau hŷn gael ffurfio mudiadau neu gymdeithasau i bersonau hŷn.
Gofal
- Dylai personau hŷn gael manteisio ar ofal ac amddiffyniad y teulu a’r gymuned yn unol â system pob cymdeithas o werthoedd diwylliannol.
- Dylai personau hŷn gael mynediad at ofal iechyd i’w helpu i gadw neu adennill y lefel orau posibl o lesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol ac i atal neu ohirio dechreuad salwch.
- Dylai personau hŷn gael mynediad at wasanaethau cymdeithasol a chyfreithiol i wella’u hymreolaeth, eu hamddiffyniad a’u gofal.
- Dylai personau hŷn gael defnyddio lefelau priodol o ofal sefydliadol sy’n darparu amddiffyniad, adsefydliad ac ysgogiad cymdeithasol a meddyliol a hynny mewn amgylchedd trugarog a diogel.
- Dylai personau hŷn gael mwynhau hawliau dynol a rhyddidau sylfaenol pan fyddant yn byw mewn unrhyw gyfleuster ar gyfer cysgod, gofal neu driniaeth, gan gynnwys parch llawn i’w hurddas, eu credoau, eu hanghenion a’u preifatrwydd ac i’w hawl i wneud penderfyniadau am eu gofal ac am ansawdd eu bywydau.
Hunangyflawniad
- Dylai personau hŷn gael dilyn cyfleoedd i ddatblygu eu potensial i’r eithaf.
- Dylai personau hŷn gael mynediad at adnoddau addysgol, diwylliannol, ysbrydol ac adloniadol y gymdeithas.
Urddas
- Dylai personau hŷn gael byw mewn urddas a diogelwch a bod yn rhydd rhag cael eu hecsbloetio a’u cam-drin yn gorfforol neu’n feddyliol.
- Dylai personau hŷn gael eu trin yn deg ni waeth beth fo’u hoed, eu rhywedd, eu cefndir hiliol neu ethnig, eu statws anabledd neu eu statws arall, a chael eu gwerthfawrogi yn annibynnol ar eu cyfraniad economaidd.
Mae rhagor o wybodaeth am Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar Bersonau Hŷn ar gael yma: https://www.ohchr.org/EN/ProfessionalInterest/Pages/OlderPersons.aspx