Angen Help?

Dyletswydd Bioamrywiaeth

Wind turbines in a field in front of a rainbow

Dyletswydd Bioamrywiaeth

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 wedi cyflwyno dyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau uwch (y ddyletswydd adran 6) ar awdurdodau cyhoeddus wrth iddynt weithredu eu swyddogaethau yng Nghymru.

Mae’r ddyletswydd adran 6 yn datgan bod yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus ‘geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru, ac wrth wneud hynny hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau, i’r graddau y bo hynny’n gyson ag arfer y swyddogaethau hynny’n briodol’.

I gydymffurfio â’r ddyletswydd dylai awdurdodau cyhoeddus ystyried bioamrywiaeth ac ecosystemau yn y camau meddwl a chynllunio busnes cynnar, gan gynnwys unrhyw bolisïau, cynlluniau, rhaglenni a phrosiectau, yn ogystal ag yn eu gweithgarwch o ddydd i ddydd.

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn dod o fewn y diffiniad o awdurdod cyhoeddus o dan delerau’r Ddeddf ac mae gofyniad i gyhoeddi adroddiad ar sut mae hi wedi cydymffurfio â’r ddyletswydd Adran 6. Mae’r adroddiad hwn ar gael i’w lwytho i lawr isod, yn ogystal â Pholisi Cynaliadwyedd y Comisiynydd.

Adroddiad a Blaengynllun y Comisiynydd ar Fioamrywiaeth a Chadernid Ecosystemau Gallwch ddarllen Polisi Cynaliadwyedd y Comisiynydd yma

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges