5.
5.1 Polisïau a gweithdrefnau ar gyfer cynnal ein busnes a darparu gwasanaethau
- Ymholwyr ac achwynwyr y mae eu gweithredoedd neu eu hymddygiad yn cael eu barnu’n annerbyniol
- Polisi Mynegi Pryderon
- Cynllun Cydraddoldeb
- Safonau’r Gymraeg
- Polisi Cwynion o ran Cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg
5.2 Polisïau a gweithdrefnau ar gyfer recriwtio a chyflogi staff
Swyddi Gwag – manylion y swyddi gwag sy’n cael eu hysbysebu’n allanol, yn cynnwys trosolwg o swyddi, swydd-ddisgrifiadau a manyleb y person.
Mae ein Polisi Iechyd a Diogelwch ar gael ar gais drwy anfon e-bost i gofyn@comisiynyddph.cymru.
5.3 Gwasanaeth Cwsmeriaid
I gael gwybodaeth ar sut i gwyno am y Comisiynydd Pobl Hŷn, gweler ein Polisi Cwynion.
5.4 Rheoli Gwybodaeth
5.5 Polisïau a Dyletswyddau Ychwanegol
- Chwythu’r Chwiban
- Cynllun Cydraddoldeb Strategol
- Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Personau Hŷn
- Dyletswydd Bioamrywiaeth
- Datganiad Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl
5.6 Trefniadau a pholisïau codi tâl
Mae’r taliadau sy’n berthnasol i wybodaeth sy’n cael ei chyhoeddi o dan y Cynllun Cyhoeddi hwn wedi’u nodi yn y Polisi Mynediad at Wybodaeth.
Ar gyfer ceisiadau o dan hawl mynediad cyffredinol Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, ein polisi cyffredinol yw peidio â chodi tâl am wybodaeth, ac eithrio ar gyfer adfer cost postio, pecynnu, argraffu a llungopïo, pan fydd hynny’n fwy na £10.
Un eithriad pellach yw pan fyddwn yn amcangyfrif y bydd y gost o gasglu’r wybodaeth yn fwy na £450, fel y’i diffinnir gan y rheoliadau codi tâl o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Mewn achosion o’r fath, bydd y costau yn cael eu cyfrifo yn unol â’r rheoliadau hynny, a byddwn yn hysbysu’r ceisiwr o’r swm y byddai’n rhaid iddynt ei dalu. Bydd yr amser a gofnodir ar gyfer cyflawni’r cais yn dechrau o’r dyddiad y bydd y ceisiwr yn cadarnhau eu bod yn dymuno parhau â’r cais a bod y taliad angenrheidiol wedi’i dderbyn a’i glirio gan fanc y ceisiwr.
Ar gyfer ceisiadau mynediad pwnc o dan Ddeddf Diogelu Data 1998, ein polisi cyfredol yw codi swm safonol o £10.