2. Beth ydym yn ei wario a sut rydym yn ei wario
2.1 Y Gyllideb a’r Cyfrifon Blynyddol
Mae swydd y Comisiynydd yn cael ei hariannu gan Weinidogion Cymru, ond mae’n gweithredu’n annibynnol, ac mae’n atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad) am ddefnyddio adnoddau sydd ar gael i’r sefydliad eu defnyddio. Y Comisiynydd yw’r Swyddog Cyfrifo, ac mae’n ofynnol iddi gyflwyno cyllideb flynyddol (yr Amcangyfrif) i Weinidogion Cymru o dan baragraff 9(2) Atodlen 1 Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006. Mae’n nodi’r cyllid arian parod net yr amcangyfrifir y bydd ei angen ar Lywodraeth Cymru er mwyn cyflawni swyddogaethau statudol y Comisiynydd.
Yna, mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru gyflwyno’r Amcangyfrif, yn cynnwys yr addasiadau neu heb gynnwys yr addasiadau, gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff 9(3), Atodlen 1 Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006.
Amcangyfrif 2022-23 yw:
- Amcangyfrif Incwm a Gwariant Comisiynydd Pobl Hŷn 2023-24
- Amcangyfrif Incwm a Gwariant Comisiynydd Pobl Hŷn 2022-23
- Amcangyfrif Incwm a Gwariant Comisiynydd Pobl Hŷn 2021-22
Fel Swyddog Cyfrifo, mae’n rhaid i’r Comisiynydd baratoi datganiad o gyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Mae’r cyfrifon yn cael eu paratoi ar sail croniadau, ac mae’n rhaid iddynt ddarparu darlun teg a chywir o faterion ariannol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a’i gwariant net, ei sefyllfa ariannol, newidiadau i ecwiti trethdalwyr a’r llif arian parod ar gyfer y flwyddyn ariannol.
Yna bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn archwilio’r Cyfrifon Blynyddol, ac yna byddant yn cael eu cyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae’r Cyfrifon Blynyddol ar gael yma:
- Cyfrifon Archwiliedig 2021-22
- Cyfrifon Archwiliedig 2020-21
- Cyfrifon Archwiliedig 2019-20
- Cyfrifon Archwiliedig 2018-19
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cyflwyno Adroddiad Archwilio Datganiadau Ariannol a Llythyr Rheoli, sydd ar gael ar gais drwy anfon e-bost i gofyn@comisiynyddph.cymru
2.2 Lwfansau a Threuliau
Mae’r polisi Teithio a Chostau Cynhaliaeth yn cyflwyno’r rheolau a’r gweithdrefnau sy’n gysylltiedig ag ysgwyddo a hawlio gwariant teithio a chynhaliaeth, wrth weithio i’r Comisiynydd.
Egwyddor graidd y polisi hwn yw y dylid ysgwyddo treuliau yn rhesymol am ddibenion busnes priodol ar sail dim elw, dim colledion. Mae’r rheolau hyn yn nodi beth sy’n rhesymol yn gyffredinol.
Polisi Teithio a Chostau Cynhaliaeth
Bydd y Comisiynydd yn cyhoeddi manylion cyfredol o’i threuliau ei hun bob chwarter, fel y nodir isod:
Treuliau’r Comisiynydd 2022-23
Treuliau’r Comisiynydd 2021-22
Treuliau’r Comisiynydd 2020-21
2.3 Strwythurau Cyflog a Graddio
Mae cyflog y Comisiynydd yn cael ei bennu gan Weinidogion Cymru, yn unol ag Atodlen 1(3) Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006. O dan delerau’r penodiad hwn, bydd unrhyw gynnydd blynyddol yn dilyn y dyfarniad canran a wneir gan y Corff Adolygu Cyflogau Uwch-swyddogion. Mae’r Comisiynydd hefyd yn gymwys i ymuno â Phrif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil.
Y Comisiynydd sy’n gyfrifol am bennu cyflogau staff sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y Comisiynydd, ar ôl cynnal adolygiad cyflogau blynyddol, sy’n asesu unrhyw newidiadau arwyddocaol i’r rôl, eu cyfraniad i amcanion strategol, ac effaith y newid ar swyddi eraill o fewn y sefydliad, ac asesiad o’r cyfraddau ar gyfer swyddi tebyg yn y farchnad ehangach mewn sefydliadau tebyg eraill.
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: Polisi Talu a Gwobrwyo
2.4 Gweithdrefnau Caffael
Fel y Swyddog Cyfrifo, efallai y bydd y Comisiynydd yn cael ei galw i gyfrif yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, am stiwardio’r adnoddau y mae’r Comisiynydd yn gyfrifol am eu rheoli. Mae hyn yn golygu bod y Comisiynydd ei hun yn gyfrifol ac yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am:
- priodoldeb a rheoleidd-dra,
- gweinyddiaeth ddoeth a darbodus,
- osgoi gwastraff a gorwario
- defnydd effeithlon ac effeithiol o’r adnoddau sydd ar gael,
- trefniadau trefnu, staffio a rheoli’r sefydliad
Disgwylir hefyd i’r Comisiynydd ystyried gwerth am arian wrth wario arian cyhoeddus, ac mae’n gyfrifol am sicrhau safon uchel o reolaeth ariannol.
Nid yw’n ymarferol i’r Comisiynydd ei hun archebu a thalu am bob eitem o wariant, ac felly, mae’n bosibl y bydd yn dirprwyo pwerau yn ffurfiol i archebu nwyddau a gwasanaethau ar ei rhan i aelodau ei thîm.
Polisi Archebu Nwyddau a Gwasanaethau
Mae gan y Comisiynydd delerau ac amodau safonol ar gyfer cyflenwi nwyddau a gwasanaethau, sy’n cyfeirio’n benodol at ofynion sy’n gysylltiedig â Deddf Cydraddoldeb 2010 a goblygiadau sy’n ymwneud â’r Iaith Gymraeg.
2.5 Rheoliadau Ariannol Mewnol
Ar gael ar gais, drwy anfon e-bost i gofyn@comisiynyddph.cymru