Angen Help?

Cynllun Cyhoeddi

Cynllun Cyhoeddi

Mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi mabwysiadu cynllun cyhoeddi enghreifftiol y Comisiynydd Gwybodaeth.

Mae’r cynllun yn nodi saith categori eang o wybodaeth y mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ymrwymo i sicrhau eu bod ar gael yn rheolaidd. Byddwn yn darparu cymaint o wybodaeth â phosib yn rheolaidd o dan y categorïau gwybodaeth hyn.

Mae’r cynllun hefyd yn nodi o dan ba amgylchiadau na fyddai gofyn i’r Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn rheolaidd. Y rhain yw:

  • Pan nad yw’r wybodaeth yn cael ei chadw, neu pan fydd ar ffurf drafft;
  • Pan fydd y wybodaeth wedi’i heithrio rhag cael ei datgelu (er enghraifft, os yw’n wybodaeth bersonol neu gyfrinachol); neu
  • Pan nad yw’r wybodaeth ar gael yn hwylus mwyach.
Canllawiau i Wybodaeth

Mae cynllun cyhoeddi’r Comisiynydd yn nodi’r math o wybodaeth rydym yn sicrhau ei bod ar gael yn rheolaidd, yn y saith maes gwybodaeth a ganlyn:

Sut gallwch chi gael gafael ar y wybodaeth

Bydd llawer o’r wybodaeth rydym yn ei chadw, sy’n dod o dan y Cynllun hwn, ar gael ar ein gwefan ac mae modd ei llwytho i lawr am ddim. Os nad yw’r wybodaeth ar gael ar ein gwefan, mae modd i ni ei darparu ar gais.

Mae modd cael copïau papur o’r wybodaeth rydym yn ei chadw, drwy anfon e-bost at gofyn@olderpeoplewales.com, drwy ffonio’r swyddfa ar 03442 640 670 neu drwy ysgrifennu at: Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FL.

Anfonir y wybodaeth y gofynnwyd amdani, sydd wedi’i chynnwys yn y cynllun cyhoeddi, atoch o fewn pum diwrnod gwaith.

Gellir cyflwyno deunydd wedi ei deipio mewn print bras os gofynnir amdano. Gellir hefyd wneud trefniadau i gynhyrchu rhai dogfennau penodol mewn braille neu ar dâp sain.

Ffioedd

Mae’r wybodaeth sy’n cael ei darparu ar bapur ar gael am ddim am gopïau unigol. Codir tâl am lungopïo a phostio os archebir copïau niferus, a phan fydd costau o’r fath dros £10.

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges