Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Sbarduno Newid i Bobl Hŷn: Effaith a Chyrhaeddiad 2012-18

i mewn Adroddiadau blynyddol

Rydw i’n aml yn methu â chredu fy mod wedi cymryd swydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru chwe blynedd yn ôl, ym mis Mehefin 2012. Mae’r blynyddoedd wedi hedfan ac rydw i wedi bod yn falch o sefyll a siarad ar ran pobl hŷn drwy Gymru fel eu llais a’u heiriolwr annibynnol.

Yn ystod y chwe blynedd ddiwethaf, rydw i wedi cwrdd a siarad â miloedd o bobl hŷn drwy Gymru, sydd wedi rhannu cymaint mor hael gyda mi ynglŷn â’u bywydau, eu profiadau a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Mae lleisiau pobl hŷn, yn eu holl amrywiaeth, wedi arwain a llunio amrediad eang o waith rydw i wedi’i wneud fel Comisiynydd yn ystod y chwe blynedd ddiwethaf, sydd wedi cael ei amlinellu yn yr Adroddiad Etifeddol hwn, sy’n cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â’m Hadroddiad Effaith a Chyrhaeddiad.

Pan gymerais y swydd fel Comisiynydd, roeddwn i’n bendant bod y ddadl ynglŷn â’r problemau sy’n effeithio ar bobl hŷn yn rhy aml yn cael eu llunio yn anghywir. Roedd ychydig iawn o ganolbwyntio ar ansawdd bywyd, llesiant a chanlyniadau, nid oedd hawliau pobl hŷn yn cael eu hystyried drwy bolisi a gwneuthurwyr penderfyniadau, ac nid oedd problemau sy’n effeithio ar bobl hŷn sydd y tu allan i iechyd a gofal cymdeithasol yn aml yn cael eu gweld fel blaenoriaeth, er gwaethaf eu pwysigrwydd hanfodol.

Ymhellach, roedd pobl hŷn yn cael eu gweld yn rhy aml fel grŵp homogenaidd, grŵp ar wahân a oedd yn cael ei eithrio o’r gymdeithas, gyda delweddau ac iaith negyddol a oedd yn cael eu defnyddio yn gyffredin a oedd yn atgyfnerthu stereoteipiau a thybiaethau, yn arbennig felly’r rhai hynny ynghylch eiddilwch, dirywiad a dibyniaeth.

O ganlyniad i’m gwaith dros y chwe blynedd ddiwethaf, a gwaith diflino llawer o bobl eraill drwy Gymru i wella bywydau pobl hŷn, bu newid sylweddol mewn polisi, deddfwriaeth, rheoliadau ac ymarfer yn seiliedig ar ddarparu dull sy’n canolbwyntio fwy ar yr unigolyn, ar ganlyniadau ac yn un ataliol.

Wrth gwrs, mae hyn i’w groesawu, ond nid oes unrhyw le i fod yn hunanfodlon ac mae llawer eto i’w wneud. Mae llawer o’r problemau a wynebir gan bobl hŷn yr wyf i wedi tynnu sylw atyn nhw ac wedi adrodd amdanyn nhw yn ystod fy nghyfnod fel Comisiynydd wedi datblygu dros gyfnodau sylweddol o amser ac maen nhw angen gwaith sylweddol a pharhaus i’w datrys. Dyna pam mae gwaith dilynol a monitro a chraffu parhaus ynglŷn â pholisi ac ymarfer yn hanfodol ac mae wedi bod yn rhan allweddol o’m gwaith. Mewn maes o flaenoriaethau a heriau sy’n cystadlu â’i gilydd, mae’n hanfodol fod yr addunedau a’r ymrwymiadau a wnaed gan gyrff cyhoeddus i weithredu a chyflawni newid, yn cael eu gwireddu ar gyfer pobl hŷn.

Bu’n wir fraint i fod yn Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ystod y chwe blynedd ddiwethaf, amser lle bu llawer o newid cadarnhaol i bobl hŷn. Hoffwn ddiolch i’m tîm, y rhanddeiliaid rydw i wedi gweithio gyda nhw, ac yn bwysicaf oll, y bobl hŷn drwy Gymru sydd wedi fy nghefnogi i a’m gwaith i wneud Cymru yn le da i heneiddio, nid ar gyfer rhai yn unig ond i bawb.

Cliciwch yma i lawrlwytho Sbarduno Newid i Bobl Hŷn: Effaith a Chyrhaeddiad 2012-18

 


 

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges