Mae’r Comisiynydd wedi cyhoeddi ei hadroddiad Effaith a Chyrhaeddiad diweddaraf, sy’n tynnu sylw at y gwaith y mae wedi’i wneud i ysgogi newid a gwella bywydau pobl hŷn ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y camau y mae’r Comisiynydd wedi’u cymryd yn erbyn ei phedair blaenoriaeth – diogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn, rhoi diwedd ar ragfarn a gwahaniaethu ar sail oedran, atal cam-drin pobl hŷn a galluogi pawb i heneiddio’n dda, yn ogystal â’i gwaith ehangach i ddylanwadu ar bolisïau ac arferion ar lefel leol a chenedlaethol.
Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y materion a godwyd gan bobl hŷn sydd wedi cael cymorth gan Wasanaeth Cyngor a Chymorth y Comisiynydd, yn ogystal â’r holl waith a wnaeth y Comisiynydd a’i thîm yn cysylltu â phobl hŷn ledled Cymru i wrando ar eu barn a’u syniadau, gwaith sy’n hanfodol i helpu i siapio ei gwaith.
Dywedodd y Comisiynydd:
“Mae fy mlwyddyn lawn olaf fel Comisiynydd wedi bod yn amser prysur iawn, ac fel y gwelwch o’m hadroddiad, mae fy nhîm a minnau wedi cyflawni llawer iawn i ysgogi newid i bobl hŷn.
“Hoffwn ddiolch i’r holl bobl hŷn a’r sefydliadau sydd wedi gweithio gyda mi ac wedi fy nghefnogi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar y cynnydd rydyn ni wedi’i wneud yn ystod 2023-24 i helpu i sicrhau bod Cymru yn fan lle mae pobl hŷn yn cael eu gwerthfawrogi, lle mae hawliau’n cael eu cynnal a lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.”
Darllenwch Adroddiad Effaith a Chyrhaeddiad y Comisiynydd