Adeg ysgrifennu hwn, rydyn ni i gyd yn wynebu’r heriau sy’n codi yn sgil pandemig Covid-19, y cyfyngiadau ar ein bywydau a’r galar yn sgil colli anwyliaid.
Mae’n anochel bod yr adolygiad hwn o’r flwyddyn wedi ei lywio gan ein profiadau dros y misoedd diwethaf a’r effaith ar bobl hŷn. Fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, rydw i wedi teimlo hyn i’r byw ac rydw i’n cydymdeimlo’n ddiffuant â phawb sydd wedi colli anwyliaid, a’r rheini sy’n wynebu llawer o drafferthion ac anawsterau bob dydd.
Ond mae’r pandemig ofnadwy hwn wedi dangos ein hochr orau hefyd ac mae’r ymrwymiad, y creadigrwydd a’r undod y mae cynifer o bobl wedi’i ddangos wedi fy ysbrydoli a’m calonogi. Bydd angen hyn i gyd arnom, a mwy, wrth i ni fynd i’r afael â’r misoedd nesaf gyda’n gilydd.
Wrth gyflwyno’r adroddiad blynyddol hwn, hoffwn ddiolch i’r holl bobl hŷn sydd wedi ymgysylltu â mi a’m tîm, am eu syniadau, eu doethineb, eu her a’u cefnogaeth. Yn benodol, hoffwn dalu teyrnged i Phyllis Preece, a fu farw eleni, gwaetha’r modd. Phyllis oedd Cadeirydd Confensiwn Cenedlaethol y Pensiynwyr a llawer mwy. Roedd hi’n ffrind da i mi a’m rhagflaenwyr a’n timau, ac mae colled fawr ar ei hôl.
Hoffwn ddiolch hefyd i’r holl unigolion a sefydliadau rydyn ni’n gweithio gyda nhw sy’n dangos pam gall Cymru fod y lle gorau yn y byd i heneiddio, er gwaethaf yr heriau eithriadol rydyn ni’n eu hwynebu ar hyn o bryd.
Cefais gefnogaeth dda gan fy Mhwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg sy’n darparu cyngor, asesiad a sicrwydd gwrthrychol a chlir ar risg, rhywbeth sy’n arbennig o bwysig yn y cyfnod hwn o newid cyflym a chyson.
Ac, yn olaf, hoffwn ddiolch o waelod calon i fy nhîm. Ni fyddai’r effaith rydw i’n ei chael fel Comisiynydd, ac fe fyddwch chi’n darllen am hyn yn yr adroddiad, yn bosibl heb eu gwaith caled a’u cefnogaeth amhrisiadwy nhw.
Heléna Herklots CBE
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Cliciwch yma i lawrlwytho Effaith a Chyrhaeddiad 2019-20