Angen Help?

Adroddiad Effaith a Chyrhaeddiad 2018-19

i mewn Adroddiadau blynyddol

Cliciwch yma i lawrlwytho Adroddiad Effaith a Chyrhaeddiad 2018-19

Cefais y pleser o ddod yn Gomisiynydd ym mis Awst 2018 ac mae’n fraint cael gweithio i wella bywydau pobl hŷn ledled Cymru.

Roedd 2018 yn nodi deng mlynedd ers i rôl y Comisiynydd – y gyntaf o’i math yn y byd – gael ei sefydlu, ac mae pobl hŷn wedi cael budd sylweddol drwy ddylanwadu ar bolisïau ac arferion, drwy graffu ar y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus gan eu dwyn i gyfrif, drwy adolygiadau a chanllawiau ffurfiol, a drwy roi cymorth gwaith achos uniongyrchol i bobl hŷn.

Hoffwn ddiolch i fy rhagflaenwyr, Ruth Marks a Sarah Rochira, am bopeth y maent wedi’i gyflawni i bobl hŷn yng Nghymru dros y degawd diwethaf, ac am osod seiliau mor gadarn ar gyfer fy ngwaith fel Comisiynydd. Hefyd, hoffwn ddiolch i fy nhîm am eu gwaith caled a’u cefnogaeth yn ystod cyfnod o bontio sylweddol. Mae’r adroddiad hwn yn trafod y gwaith a gafodd ei wneud ar ddiwedd cyfnod Sarah fel Comisiynydd, a fy ngwaith i fy hun o rymuso ac ysgogi newid ar gyfer pobl hŷn ers mis Awst 2018.

Ers dechrau’r swydd, rwyf wedi teithio ar hyd a lled Cymru yn cwrdd ac yn siarad â phobl hŷn o ystod amrywiol o gefndiroedd, yn ogystal â sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl hŷn ac ar eu rhan, i glywed yn uniongyrchol ganddynt am eu profiadau o dyfu’n hŷn yng Nghymru, a’u meddyliau a’u syniadau am y newid sydd ei angen a’r ffyrdd y gellid creu gwelliannau.

Mae’r ymgynghoriad hwn, a oedd yn cynnwys rhaglen helaeth o ymgynghori â phobl hŷn a rhanddeiliaid, wedi helpu i ddatblygu fy strategaeth – Gwneud Cymru y lle gorau yn y byd i heneiddio – sy’n nodi’r camau y byddaf yn eu cymryd dros y tair blynedd nesaf i wella bywydau pobl hŷn.

Bydd fy ngwaith yn canolbwyntio ar dair prif flaenoriaeth – rhoi diwedd ar wahaniaethu ar sail oedran, atal cam-drin pobl hŷn a galluogi pawb i heneiddio’n dda.

Mae gen i rôl unigryw i’w chwarae wrth fynd i’r afael â’r blaenoriaethau hyn a byddaf yn gwneud ystod eang o waith yn unol â phob un ohonynt. Fodd bynnag, rhan arall o fy rôl i yw annog pobl eraill i fynd i’r afael â’r materion hyn a gweithio gyda’i gilydd i sicrhau newid. Dyma rywbeth a fydd ond yn cael ei gyflawni drwy ymdrech gyson ar y cyd ym mhob rhan o’r gymdeithas. Byddaf yn dal i weithio er mwyn grymuso pobl hŷn a sicrhau bod ganddynt lais cryf y mae pobl yn gwrando arno ac yn gweithredu arno.

Yn ogystal, byddaf yn tynnu sylw at y cyfraniad sylweddol y maent yn ei wneud i’r gymdeithas, ochr yn ochr â diogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn a herio gwasanaethau a chyrff cyhoeddus pan na fydd yr hawliau hyn yn cael eu cynnal.

Fel Comisiynydd, byddaf yn datgan yn glir pan fydd angen gwelliannau ac yn tynnu sylw at faterion a methiannau mewn polisïau ac arferion a effeithir yn negyddol ar ansawdd bywyd pobl hŷn. Ond, byddaf hefyd yn rhoi sylw i arferion da, gan gydnabod yr hyn y mae llawer o unigolion a sefydliadau ledled Cymru eisoes yn ei wneud i sicrhau mai Cymru yw’r lle gorau yn y byd i heneiddio. Byddaf yn annog ac yn hyrwyddo dulliau gweithredu arloesol ac effeithiol sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl hŷn er mwyn darparu’r dulliau hynny’n ehangach ledled Cymru.

Er bod heneiddio yn brofiad cadarnhaol i lawer o bobl, nid yw hyn yn wir i bawb, yn enwedig i’r rheini sydd fwyaf agored i niwed. Mae angen gwneud llawer mwy i sicrhau bod pob person hŷn yn gallu cael yr ansawdd bywyd gorau, yn gallu cadw’n heini a chymryd rhan, yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt, ac yn gallu gwneud y pethau sy’n bwysig iddynt.

Dyna pam mae hi mor bwysig i ni fod yn uchelgeisiol o ran yr hyn rydym am ei gyflawni ar gyfer pobl hŷn a pham, fel Comisiynydd, y byddaf yn gweithio i sicrhau mai Cymru yw’r lle gorau yn y byd i heneiddio.

 

Helena Herklots CBE
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Cliciwch yma i lawrlwytho Adroddiad Effaith a Chyrhaeddiad 2018-19

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges