Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Adroddiad Effaith a Chyrhaeddiad 2017-18

i mewn Adroddiadau blynyddol

Ers i mi gychwyn yn fy swydd fel Comisiynydd yn 2012, rwyf wedi cwrdd ac wedi siarad â miloedd o bobl hŷn sydd wedi bod yn ddigon caredig i rannu cymaint â mi – am eu bywydau, eu profiadau, eu gobeithion a’u dyheadau am y dyfodol.

Eleni, fel yn y blynyddoedd blaenorol, mae’r lleisiau a’r profiadau hyn wedi arwain a ffurfio fy ngwaith fel Comisiynydd ac mae’n rhywbeth sy’n fy atgoffa’n gyson o bwysigrwydd gwneud pethau’n iawn i bobl hŷn.

Pan fyddwn ni’n gwneud pethau’n iawn i bobl hŷn – pan fydd help a chefnogaeth wedi’u llunio’n bwrpasol i ddiwallu eu hanghenion – bydd yn rhoi pwyslais ar ganlyniadau ac, yn bwysicach na dim, bydd yn gwrando ac yn gweithredu ar yr hyn maent yn ei ddweud wrthym – gallant gadw’n iach ac annibynnol a chael yr ansawdd bywyd gorau posibl, pethau y bydd pob un ohonom am eu cael wrth i ni heneiddio.

Mae cymaint o waith da ac arferion da i’w gweld yng Nghymru i wella bywydau pobl hŷn, rhywbeth rwyf yn ei amlygu ac yn ei hyrwyddo ar bob cyfle – mae mor bwysig bod yr arferion da hyn yn dod yn arferion safonol yng Nghymru.

Ond mae cymaint sydd angen ei wneud o hyd i gydnabod pobl hŷn fel yr ased gwerthfawr yr ydynt i Gymru, i ddiogelu eu hawliau, i’w gwarchod rhag niwed, i gyflawni’r newidiadau maent eu heisiau a’u hangen, ac i sicrhau bod y dyhead sy’n sail i gymaint o’n polisïau a’n deddfwriaeth yng Nghymru’n dod yn realiti ym mywydau pob dydd pobl hŷn.

Mae llawer o’r problemau hynny mae pobl hŷn yn eu hwynebu yr wyf wedi tynnu sylw ac wedi adrodd arnynt fel Comisiynydd wedi datblygu dros amser hir ac, yn anffodus, nid oes ffordd gyflym o’u datrys. Dyna pam fod gwaith dilynol a monitro a chraffu parhaus ar bolisïau ac arferion gweithio mor bwysig – mae’n hanfodol, mewn byd o flaenoriaethau a heriau sy’n cystadlu â’i gilydd, nad yw’r addewidion a wneir gan gyrff cyhoeddus i weithredu ac i wneud newidiadau yn cael eu hanghofio, nad yw adroddiadau’n cael ei gadael i hel llwch ar silffoedd.

Mae hyn wedi cael llawer o sylw yn fy ngwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae wedi cynnwys gwaith dilynol manwl sy’n gysylltiedig â fy Adolygiad o Gartrefi Gofal (2014), asesu a yw uchelgais Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn cael ei gwireddu o ran diogelu pobl hŷn ac eiriolaeth, ac adeiladu ar ganfyddiadau fy adroddiad ‘Dementia: Mwy na Dim ond Colli’r Cof” ac edrych yn fwy manwl ar wasanaethau seibiant yng Nghymru.

Yn ychwanegol at hyn, rwyf wedi gwneud llawer o waith pellach i sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu diogelu a’u hamddiffyn, i godi ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr proffesiynol, trwy gyfrwng seminarau a chyhoeddi canllawiau, am raddfa a natur y gamdriniaeth mae pobl hŷn yn ei phrofi, sut y gellir adnabod camdriniaeth a sut mae mynd i’r afael â’r broblem.

Mae’r rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru, a sefydlwyd gennyf ac sy’n cael ei rhedeg gan fy swyddfa, wedi tyfu’n sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf: mae dros 70 o bartneriaid cenedlaethol a dros 1,600 o aelodau Rhwydwaith Heneiddio’n Dda yn awr yn gwneud gwaith amrywiol ar lefelau strategol a chymunedol i gyflawni amcanion pum thema allweddol Heneiddio’n Dda – Cymunedau sy’n gyfeillgar i oed, cymunedau cefnogi pobl â dementia, atal cwympiadau, unigrwydd ac arwahanrwydd a chyfleoedd dysgu a chyflogaeth. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi cyfres o Storïau Heneiddio’n Dda, nid yn unig i ddathlu’r gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud gan Aelodau’r Rhwydwaith Heneiddio’n Dda, ond hefyd i annog eraill i weithredu yn eu cymunedau eu hunain ac i ddatblygu eu cynlluniau eu hunain i helpu pobl hŷn ledled Cymru i Heneiddio’n Dda.

Mae rhagor o wybodaeth am Heneiddio’n Dda yng Nghymru, a’i waith a’i gyflawniadau, ar gael mewn adroddiad Heneiddio’n Dda yng Nghymru mwy manwl a fydd yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r adroddiad hwn. Rwyf hefyd yn cyhoeddi adroddiad etifeddiaeth – ‘Sbarduno Newid i Bobl Hŷn: Effaith a Chyrhaeddiad 2012-18’ – ochr yn ochr â’r adroddiad hwn, sy’n cynnwys manylion am ystod eang y gwaith rwyf wedi’i wneud i sbarduno newid i bobl hŷn ledled Cymru yn ystod fy nhymor fel Comisiynydd.

Mae wedi bod yn fraint o’r mwyaf i weithredu fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ystod y chwe blynedd diwethaf, cyfnod a welodd lawer o newidiadau positif i bobl hŷn. Hoffwn ddiolch i fy nhîm, y rhanddeiliaid rwyf wedi gweithio â hwy ac, yn bwysicaf oll, y bobl hŷn ledled Cymru sydd wedi fy nghefnogi fi a fy ngwaith i wneud Cymru’n lle da i heneiddio, nid i rai pobl yn unig ond i bawb.

Cliciwch yma i lawrlwytho Adroddiad Effaith a Chyrhaeddiad 2017-18

 


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges