Adolygiad Diogelu Unedig Sengl: Canllawiau Statudol Drafft
Mehefin 2023
Cyflwyniad
Rôl Comisiynydd Pobl Hŷn (OPCW) annibynnol Cymru yw diogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn sy’n byw yng Nghymru. Mae’r Comisiynydd yn craffu ar y polisïau a’r ymarferion hynny fel mater o drefn, â’r potensial i effeithio ar hawliau pobl hŷn.
Mae atal cam-drin pobl hŷn yng Nghymru yn flaenoriaeth allweddol i’r Comisiynydd. Yn 2020, sefydlodd OPCW ‘Grŵp Gweithredu Atal Cam-drin’ (wedi’i oruchwylio gan ‘Grŵp Llywio Atal Cam-drin’), i helpu i sicrhau bod pobl hŷn sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, neu sy’n profi camdriniaeth, yn cael mwy o amddiffyniad drwy gydol pandemig Covid-19. [1]. Trwy gydweithio, datblygodd aelodau’r grwpiau hyn strategaeth chwe lefel ar gyfer dod â cham-drin pobl hŷn i ben yng Nghymru [2]. Mae gwella ymarfer gweithwyr proffesiynol y rheng flaen trwy well hyfforddiant ac addysg, yn rhan sylweddol o’r strategaeth gyffredinol hon.
Mae Adolygiadau Ymarfer Oedolion (APRs) sydd eisoes yn bodoli’n darparu cyfleoedd hanfodol ar gyfer myfyrio a dysgu sefydliadol. Ymddengys bod ymchwil ddiweddar yn ffafrio uno APRs, Adolygiadau Dynladdiad Domestig (DHRs) ac Adolygiadau Dynladdiad Iechyd Meddwl (MHHRs) sydd ar wahân ar hyn o bryd [3] [4]. Fodd bynnag, mae’n anochel bod llawer o lwyddiant y broses newydd ‘Adolygiad Diogelu Unedig Unedig (SUSR) newydd, yn dibynnu ar eglurder y canllawiau statudol cysylltiedig. Felly, mae’r Comisiynydd yn falch o ymateb i’r ymgynghoriad hwn ar y canllawiau statudol drafft. Mae’r sylwadau yn yr ymateb hwn, yn dilyn rhifau’r cwestiynau yn y ddogfen ymgynghori.
Cwestiynau 1 a 2 (yn ymwneud â’r nodau a’r rhesymau dros gynhyrchu broses yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (SUSR), a’i hegwyddorion sylfaenol).
Mae’r canllawiau’n darparu rhesymeg glir dros ddatblygu’r broses SUSR. Gan dynnu ar ymchwil diweddar, mae’r canllawiau’n nodi y bydd yr adolygiad cyfunol yn lleihau cymhlethdod prosesau adolygu ar wahân sydd eisoes yn bodoli. Dadleuir hefyd y bydd yr SUSR yn cynyddu cyfleoedd i ymarferwyr a dysgu sefydliadol, a bydd yn hyrwyddo goddefgarwch a dealltwriaeth ryngddisgyblaethol.
Yn arwyddocaol, mae’r canllawiau’n tynnu sylw at y ffyrdd y bydd unigolion a theuluoedd, o bosibl, yn elwa ar broses adolygu gyfun. Bydd llawer o aelodau’r teulu yn canfod ymgysylltu â phrosesau adolygu, yn heriol iawn. Wrth gyfrannu at adolygiadau, mae risg ail-drawmateiddio yn real iawn; mae’n anochel y bydd rhai aelodau o’r teulu yn ‘ail-fyw’ agweddau ar eu profiad wrth iddynt ymgysylltu ag adolygwyr a rhannu eu safbwyntiau ar sefyllfaoedd a digwyddiadau’r gorffennol. Mae risg ail-drawmateiddio yn cynyddu pan fydd teuluoedd yn cymryd rhan mewn nifer o brosesau adolygu; yn enwedig pan nad yw gwybodaeth yn cael ei rhannu ar draws cyrff adolygu ar wahân.
Mae’r SUSR wedi’i seilio ar egwyddorion cadarnhaol. Mae’r ffocws ar ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n seiliedig ar berthynas, yn arbennig o bwysig. Mae’n braf gweld bod y canllawiau’n cydnabod heriau gwaith diogelu ac yn cydnabod pwysigrwydd datblygu amgylcheddau gwaith cefnogol ar gyfer ymarferwyr y rheng flaen.
Cwestiynau 3, 4 a phump – yn canolbwyntio ar eglurder y canllawiau mewn perthynas â chymhwysedd, proses a rolau a chyfrifoldebau cyrff adolygu.
Mae cyfuno adolygiadau ar wahân i un broses adolygu unedig, sengl yn dasg uchelgeisiol, gymhleth a heriol. Felly, mae’n hanfodol bod y canllawiau statudol mor glir a chryno â phosibl.
Dylid symleiddio geiriad y canllawiau o ran cymhwysedd, proses, a rolau a chyfrifoldebau gwahanol aelodau i gyfarwyddo gwaith Byrddau Diogelu Rhanbarthol (RSBs) yn effeithiol. Mae eglurder yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y meini prawf cymhwysedd ar gyfer yr SUSR yn cael eu cymhwyso’n gyson ar draws ardaloedd daearyddol. Mae hefyd yn hanfodol sicrhau bod cyrff priodol yn deall eu gwahanol rolau a’u cyfrifoldebau yn llawn yn y broses SUSR.
Mae elfennau o’r canllawiau drafft yn gymhleth, gan olygu ei bod yn anodd eu darllen a deall ar adegau. Ar hyn o bryd, mae’r adolygiadau ar wahân yn cyd-fynd â’u canllawiau ymarfer eu hunain. Yn eu tro, mae’r dogfennau canllaw ymarfer amrywiol hyn yn amlinellu’r meini prawf ar gyfer adolygu cymhwysedd mewn ffyrdd gwahanol iawn. Felly, er enghraifft, mae’r canllawiau sy’n ymwneud â MHHR yn gyfarwyddol wrth nodi y dylid cynnal adolygiad os yw Awdurdod Lleol wedi cael “cyswllt” (naill ai wedi cynnal “asesiad” neu wedi ymgymryd ag “ymyrraeth”) ag unigolyn o fewn y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r canllawiau mewn perthynas ag APRs yn cyfeirio at “weithredu” ond nid yw’n diffinio hyn (a yw hyn yn cyfeirio at sefyllfaoedd lle mae ymarferwyr wedi bod yn rhan o ymyriadau gweithredol yn unig, neu a fyddai hyn hefyd yn cynnwys asesu?). Mae’r canllawiau ar gyfer APR yn nodi bod yn rhaid cynnal adolygiad os cafodd yr Awdurdod Lleol ymwneud ag unigolyn a theulu o fewn y chwe mis blaenorol. Gall fod yn anodd i RSBs gysoni gofynion y gwahanol ddarnau hyn o ganllawiau, â’r canlyniad bod y meini prawf cymhwysedd ar gyfer SUSR yn cael eu cymhwyso’n anghyson. Mae’r canllawiau ar gyfer ymgymryd ag APRs hefyd yn gwahaniaethu rhwng adolygiadau “cryno” ac “estynedig,” ar sail lefelau ymgysylltiad Awdurdodau Lleol. Nid yw’r gwahaniaeth hwn yn ymddangos yn y canllawiau ar gyfer naill ai’r DHR neu’r MHHR, sydd eto, o bosibl yn cymhlethu’r broses o bennu cymhwysedd.
Efallai y byddai’r canllawiau’n darllen yn haws pe byddent yn cael eu hysgrifennu fel dogfen ‘annibynnol’. Ar hyn o bryd, mae sawl cyfeiriad at ddarnau eraill o ganllawiau a dogfennaeth, sy’n gwneud eu darllen a’u deall yn anodd ac mae’n cymryd llawer o amser. Mae’n hanfodol bod y canllawiau’n gweithredu fel un adnodd hygyrch i RSBs ac eraill; dogfen y gall sefydliadau droi ati, er mwyn datrys materion o ran ymarfer ac ansicrwydd yn gyflym.
Mae rhywfaint o’r iaith a ddefnyddir o fewn y canllawiau drafft yn amwys, ac felly nid yw’n briodol i ganllawiau statudol. Er enghraifft, dylid diwygio’r cyfeiriad a wnaed at gadeirydd yr RSB yn rhoi “sylw dyladwy” i Gadeirydd y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol mewn sefyllfaoedd lle mae’r adolygiad yn cynnwys Lladdiad Domestig neu ag Arfau Ymosodol (tud. 27 o’r canllawiau). Nid yw’r ymadrodd “sylw dyladwy” yn mynegi’n glir cyfrifoldebau’r RSB mewn sefyllfaoedd o’r fath, ac nid yw’n ddefnyddiol wrth bennu i ba raddau y dylid ymgorffori safbwyntiau Cadeirydd y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol wrth wneud penderfyniadau yn gyffredinol. Mae’n debygol y bydd diffyg eglurder o ran rolau a chyfrifoldebau yn arwain at densiwn rhwng sefydliadau, a bydd yn cyfyngu ar gyfleoedd ar gyfer myfyrio a dysgu rhyngddisgyblaethol.
Hefyd, mae’n ymddangos nad yw rhai rhannau o’r canllawiau wedi’u cwblhau eto; mae hyn yn golygu ei bod yn anodd darparu ymateb llawn i’r ymgynghoriad. Er enghraifft, cyfeirir at ‘becyn cymorth adolygiad diogelu unedig sengl’, â thaflen wybodaeth sy’n cyd-fynd. Er y gallai taflen safonol fod yn ddefnyddiol, nid yw’n ymddangos bod hyn wedi’i chynnwys yn y canllawiau cyfredol.
Cwestiynau 6 a 7, yn cyfeirio at y canllawiau o ran cynnwys partneriaid cymunedol, a cheisiadau am wybodaeth gan ‘unigolion neu gyrff cymwys’.
Er mwyn sicrhau y manteisir i’r eithaf ar y cyfleoedd ar gyfer dysgu sefydliadol, mae’n hanfodol bod RSBs yn ystyried amgylchiadau unigolion a theuluoedd mor llawn a chyfannol â phosibl. Felly mae’n ddefnyddiol cael rhestr o bartneriaid cymunedol posibl a allai gyfrannu at y broses adolygu. Os bydd RSBs yn cysylltu â’r partneriaid cymunedol cywir bydd yn rhaid iddynt, wrth gwrs, ennill dealltwriaeth lawn o hanes bywgraffyddol unigolyn; eu personoliaeth a’u dewisiadau. Mae dealltwriaeth o’r fath yn mynnu bod RSBs yn ymgysylltu’n llawn â’r rheiny sydd agosaf at oedolyn mewn perygl (fel aelodau o’r teulu a ffrindiau).
Cwestiwn 9. Yn cyfeirio at y canllawiau ar gyfer ymgysylltu â dioddefwyr, teuluoedd a phrif unigolion.
Mae’n hanfodol cynnwys teuluoedd mewn prosesau adolygu, er mwyn i adolygwyr ddeall yn llawn amgylchiadau oedolion sydd mewn perygl (fel uchod) ac, yn aml, mae’n bwysig i aelodau’r teulu eu hunain. Mae’r Comisiynydd yn cynnig Gwasanaeth Cyngor a Chymorth. Mae rhai aelodau o’r teulu wedi cysylltu â’r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth, i drafod y gefnogaeth y mae cyrff cyhoeddus yn ei darparu mewn sefyllfaoedd lle mae pobl hŷn wedi cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Maent wedi dweud mai’r hyn sy’n bwysig iddynt mewn sefyllfaoedd lle mae pobl hŷn wedi profi camdriniaeth, yw bod gwersi’n cael eu dysgu, a bod ymarfer yn y dyfodol yn gwella. Dymuniad teuluoedd o’r fath yw na fydd pobl eraill yn gorfod dioddef gofid amgylchiadau heriol tebyg.
Mae’r canllawiau o ran ymgysylltu yn gynhwysfawr. Mae’n gadarnhaol bod ystyriaeth ofalus wedi’i rhoi i arddulliau cyfathrebu (sensitifrwydd a chynwysoldeb, er enghraifft), a bod y canllawiau’n adlewyrchu effeithiau emosiynol ymgysylltu â phrosesau adolygu yn glir, o safbwynt dioddefwr a’r teulu.
Er bod eiriolaeth yn cael ei grybwyll, dylai fod mwy o ffocws ar yr eiriolaeth sydd ar gael i ddioddefwyr ac aelodau’r teulu. Efallai y bydd yn anodd iawn i rai pobl hŷn a theuluoedd ymgysylltu â chyrff cyhoeddus, a chymryd rhan mewn prosesau adolygu cymhleth. Efallai y gall cynyddu mynediad at eiriolaeth gryfhau cyfranogiad o’r fath. Mae’n bwysig, felly, bod dioddefwyr a theuluoedd yn cael cynnig eiriolaeth fel mater o drefn. Dylai’r canllawiau adlewyrchu cyfrifoldeb RSBs yn hyn o beth yn glir.
Cyfeirir at yr angen am greadigrwydd wrth ymgysylltu â phlant a phobl ifanc. Dylid rhoi’r un ystyriaeth i hyrwyddo dulliau cyfathrebu creadigol â grwpiau penodol o bobl hŷn. Tybir weithiau nad yw rhai grwpiau o bobl hŷn yn gallu ymgysylltu mewn prosesau asesu ac adolygu, oherwydd materion yn ymwneud â galluedd meddyliol (pobl hŷn â dementia, er enghraifft). Fodd bynnag, mae ymchwil yn dangos bod llawer o bobl hŷn â dementia (hyd yn oed y rheiny o fewn camau mwy cynyddol y salwch), yn gallu rhannu eu profiadau a’u safbwyntiau ag ymarferwyr, pan fydd dulliau cyfathrebu yn greadigol ac yn addasadwy[5]. Mae’n hanfodol bwysig nad yw pobl hŷn yn cael eu heithrio rhag mewnbynnu i brosesau SUSR, oherwydd bod rhagdybiaethau’n cael eu gwneud o ran eu gallu i ymgysylltu ar sail diagnosis o salwch yn unig.
Mae’r canllawiau’n cyfeirio at “Grŵp Cyfeirio Dioddefwyr a Theuluoedd”, a fydd yn “darparu fforwm i lais y dioddefwr a’r teulu ledled Cymru i ddarparu gwybodaeth ar gyfer y gwaith o gyflawni’r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl a’i waith llywodraethu a goruchwylio cenedlaethol”. Er bod datblygiad grŵp o’r fath yn ymddangos yn gadarnhaol mewn egwyddor, byddai’n ddefnyddiol gwybod sut y bydd aelodau’n cael eu recriwtio, eu talu a’u cefnogi. Mae’n rhaid ystyried y mathau o weithredoedd sydd eu hangen i sicrhau bod y grŵp hwn yn gynrychioliadol yn ddemograffig, a sicrhau ei fod yn ymgorffori lleisiau pobl hŷn a’u teuluoedd.
Mae’n bwysig cyfeirio at brosesau cwynion ac, fel y nodir yn y canllawiau, mae’n rhaid i ddioddefwyr a theuluoedd fod yn hollol ymwybodol o’r gweithdrefnau ar gyfer codi pryderon mewn perthynas â’r broses adolygu.
Cwestiwn 14. Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol y ffyrdd o weithio a nodir yn y canllawiau hyn ar unigolion a grwpiau â nodweddion gwarchodedig? Hefyd, byddai croeso i’ch barn ar sut y gellir cynyddu effeithiau cadarnhaol, neu liniaru effeithiau negyddol. Defnyddiwch y blwch testun i esbonio eich rhesymu.
Mae’r canllawiau’n cydnabod yn briodol yr angen am sensitifrwydd diwylliannol yn y broses SUSR. Er enghraifft, mae’n hynod bwysig bod gan ddioddefwyr a theuluoedd fynediad at adolygwyr sy’n meddu ar wybodaeth fanwl am eu cefndiroedd diwylliannol penodol. Mae gwybodaeth o’r fath yn hanfodol wrth gydnabod y ffyrdd y gallai agweddau penodol ar brofiad diwylliannol unigolyn, fod wedi dylanwadu ar gyfres benodol o ddigwyddiadau. Dylai prosesau ar gyfer ymgysylltu â dioddefwyr a theuluoedd, ac adrodd yn ôl iddynt, fod yn sensitif yn ddiwylliannol hefyd. Fel y nodir yn y canllawiau, dylai RSBs gyfathrebu ag unigolion a theuluoedd yn yr iaith o’u dewis.
Mae’r canllawiau’n cyfeirio at RSBs yn meddu ar restrau o adolygwyr cymwys priodol. Byddai’n ddefnyddiol deall y mesurau i’w cymryd, i sicrhau bod lefelau priodol o amrywiaeth ddiwylliannol ymhlith adolygwyr. Pa gamau fydd yn cael eu cymryd pan nad yw’n bosibl sicrhau amrywiaeth ddiwylliannol? Sut y bydd unrhyw gyfyngiadau’n cael eu goresgyn?
Nid yw pobl hŷn yn grŵp homogenaidd, ac mae’n rhaid ymgymryd â’r broses adolygu â’r lefelau uchaf o sensitifrwydd, gwybodaeth a dealltwriaeth ddiwylliannol. Mae ymchwil gan OPCW yn dangos bod pobl hŷn o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ac, er enghraifft, o gymunedau LHDTC+, mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin a’u hesgeuluso [6]. Yn aml, mae’n anodd iawn i bobl hŷn o’r grwpiau hyn gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt. Mae ystadegau’n dangos bod y tebygolrwydd y bydd dynion yn dioddef cam-drin yn cynyddu ag oedran [7]. Mae ymchwil diweddar a gomisiynodd OPCW yn dangos, pan fydd dynion hŷn yn profi cam-drin domestig, maent yn wynebu heriau ychwanegol wrth geisio darpariaeth gwasanaeth [8]. Canfuwyd bod rhai gweithwyr proffesiynol yn gwneud rhagdybiaethau o ran natur perthnasoedd camdriniol (gan dybio mai dynion yw cyflawnwyr cam-drin a merched yw’r dioddefwyr). Mae tybiaethau o’r fath yn cynyddu’r anawsterau y mae dynion hŷn yn eu profi wrth geisio cymorth i ffoi o’u perthnasoedd camdriniol.
Dylai aelodau o’r RSBs fod yn effro i’r ffyrdd y mae presenoldeb nodweddion gwarchodedig, yn gallu cynyddu pa mor agored y mae unigolyn i gamdriniaeth. Pan fydd adolygiad yn canfod bod nodweddion gwarchodedig unigolyn wedi cyfrannu at ei brofiadau/phrofiadau o gamdriniaeth, dylid archwilio’r rhain a’u trafod yn benodol mewn digwyddiadau dysgu ymarferwyr.
Mae cwestiwn 15 yn ymwneud ag effeithiau tebygol y ffyrdd o weithio, y manylir arnynt yn y canllawiau.
Wrth weithio’n unol â’r canllawiau, mae RSBs yn wynebu llawer mwy o waith. Mae’n hanfodol nad yw’r cyfleoedd presennol ar gyfer dysgu a gwella ymarfer â phobl hŷn, y mae prosesau APR yn eu cynnig, yn cael eu colli oherwydd bod yr adolygiadau hyn yn cael eu cyfuno â rhai eraill yn y broses SUSR. Mae’n bwysig gwybod pa adnoddau ychwanegol y gellir eu cynnig i RSBs, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cyflawni eu gwaith yn effeithiol a manteisio i’r eithaf ar y potensial i ddysgu trwy’r broses SUSR. Pa gymorth fydd ar gael i RSBs wrth iddynt bontio i’r broses SUSR newydd e.e. hyfforddiant ychwanegol?
Mae creu ystorfa i goladu dysgu o adolygiadau’r gorffennol yn gadarnhaol. Fodd bynnag, ni fanteisir i’r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer dysgu oni bai bod gan ymarferwyr a sefydliadau yr amser i fynychu digwyddiadau dysgu, ac ymdeimlo’r negeseuon a themâu allweddol yn llawn a myfyrio arnynt. Mae’n hanfodol mynd i’r afael â materion recriwtio a chadw’r gweithlu, er mwyn sicrhau bod amser ar gael ar gyfer dysgu gan ymarferwyr.
Mae cwestiwn 16 a 17 yn ymwneud ag effeithiau proses SUSR ar y Gymraeg
Mae’n hanfodol bwysig bod dioddefwyr a theuluoedd yn gallu ymgysylltu â’r broses adolygu yn yr iaith o’u dewis. Mae iaith yn ffynhonnell gwahaniaeth a hunaniaeth ac felly mae’n elfen sylfaenol o ddull personol o ymdrin â gofalu [9]. Ar adegau o straen emosiynol, gall fod llawer yn haws i bobl hŷn ddisgrifio eu sefyllfaoedd a siarad am eu hofnau, eu pryderon a’u dewisiadau ar gyfer cymorth yn eu ‘hiaith gyntaf’. Bydd angen digon o adolygwyr Cymraeg eu hiaith i sicrhau bod adolygiadau’n cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg os mai hyn yw dymuniad dioddefwyr teuluoedd. Bydd angen gweithredu i fynd i’r afael ag unrhyw gyfyngiadau mewn adnoddau yn y maes hwn.
[1]Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Grŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin. Ar gael yn: Grŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
[2]Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: Strategaeth i Roi Terfyn ar Gam-drin Pobl Hŷn. Ar gael yn: Grŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin – Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
[3] Robinson, A.L., Rees, A. a Dehaghani, R. 2,019 Making Connections: A Multidisciplinary Analysis of Domestic Homicide, Mental Health Homicide and Adult Practice Reviews. The Journal of Adult Protection 21(1), tud. 16-26.
[4] Rees, A. Dehaghani, R.., Slater, T. a Swann, R. 2,021 Canfyddiadau o Ddadansoddiad Thematig o Adolygiadau o Ymarfer Oedolion yng Nghymru. Ar gael yn: Canfyddiadau o ddadansoddiad thematig o Adolygiadau o Ymarfer Oedolion yng Nghymru – Bwrdd Diogelu Cymru
[5] Sherwin, S. a Winsby, M. 2,010 A Relational Perspective on Autonomy for Older Adults Residing in Care Homes. Health Expectations 14(2), tud. 182-190.
[6]Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. 2021. Gwasanaethau Cymorth i Bobl Hŷn sy’n Profi Camdriniaeth yng Nghymru. Ar gael yn: Gwasnaethau Cymorth i Bobl Hŷ.pdf (olden sy’n profi Camdriniaeth yng Nghymru.pdf (comisiynyddph.cymru)
[7] Swyddfa Ystadegau Gwladol 2022. Trosolwg Cam-drin Domestig yng Nghymru a Lloegr (Tachwedd 202):
Trosolwg Cam-drin Domestig yng Nghymru a Lloegr. Ar gael yn: https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/crimeandjustice/bulletins/domesticabuseinenglandandwalesoverview/november2022
[8]Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. 2022. Gwella’r Gefnogaeth a’r Gwasanaethau i Ddynion Hŷn sy’n Cael eu Cam-drin yn Ddomestig. Ar gael yn: Gwellar-gefnogaeth-ar-gwasanaethau-i-ddynion-hyn-syn-cael-eu-cam-drin-yn-ddomestig.pdf (comisiynyddph.cymru)
[9] Madac-Jones, I. a Dubberley, S. 2,005 Language and the provision of health and social care in Wales. Diversity in Health and Social Care (2), tud. 127-134.