Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Straeon y Gaeaf

i mewn Adnoddau

Roedd adroddiad Gadael Neb ar Ôl y Comisiynydd, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2020, yn tynnu sylw at y pwysigrwydd penodol o allu pobl hŷn i gael gafael ar wasanaethau a chymorth yn ystod misoedd y gaeaf, ochr yn ochr â phwysau posibl eraill sy’n wynebu pobl hŷn, fel cadw’n gynnes ac yn iach yn ystod misoedd y gaeaf a gwresogi eu cartrefi.

I gefnogi ei gwaith i ddylanwadu ar bolisïau a phenderfyniadau, roedd y Comisiynydd yn awyddus i glywed yn uniongyrchol gan bobl hŷn am eu profiadau yn ystod misoedd y gaeaf – am y materion a’r heriau roeddent yn eu hwynebu, yn ogystal â’r pethau a wnaeth wahaniaeth cadarnhaol.

Gan weithio ar ran y Comisiynydd, bu ymchwilydd yn gweithio gyda phobl hŷn o bob rhan o Gymru rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Mawrth 2021 i gofnodi eu straeon am y gaeaf, sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad hwn.

Er bod rhai o’r cyfranogwyr wedi defnyddio eu profiadau arferol o’r gaeaf, yn ôl y disgwyl roedd pandemig Covid-19 wedi cael effaith sylweddol ar brofiadau llawer o bobl, rhywbeth sy’n cael ei adlewyrchu yn y canfyddiadau isod.

Lawrlwytho Straeon y Gaeaf

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges