Angen Help?
An older woman listening to another woman, a man smiling and reading, a woman on a laptop, and a woman on the phone

Sicrhau mynediad at wybodaeth a gwasanaethau mewn oes ddigidol: Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd

i mewn Adnoddau, Ddylanwadu ar polisi ac arferion

Mae’r defnydd cynyddol o dechnoleg ddigidol yn golygu bod y ffyrdd y cawn afael ar wasanaethau a gwybodaeth, a’n ffyrdd o gyfathrebu, wedi newid yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf.

Cyflymodd y newid hwn yn ystod pandemig Covid-19, gydag ystod o wasanaethau digidol newydd bellach yn cael eu darparu gan gyrff cyhoeddus ar draws Cymru.

Fodd bynnag, mae’r pandemig hefyd wedi tynnu sylw at agendor digidol amlwg iawn yng Nghymru ac mae pobl hŷn wedi rhannu pryderon gyda’r Comisiynydd am gael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau wrth i fwy fyth fynd ar-lein.

Er y gall symud gwasanaethau ar-lein a chyflwyno ffyrdd newydd o ryng-gysylltu â’r cyhoedd gynnig manteision posib i rai sy’n gallu cael gafael arnynt – gan olygu llai o angen teithio i apwyntiad er enghraifft – mae hefyd yn bwysig cydnabod y risg o allgau pobl nad ydynt eisiau, neu sy’n methu, cael gafael ar wasanaethau fel hyn, sy’n cynnwys nifer sylweddol o bobl hŷn.

Mae’r newid a welwn ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus felly’n golygu hefyd bod angen sicrhau nad yw pobl yn cael eu hallgau, ac estyn allan i helpu rhai sydd efallai angen cymorth ychwanegol i dderbyn gwasanaethau arnynt.

Fel y noda’r adran ar fframweithiau cyfreithiol a pholisi isod (p5-9) yn fwy manwl, mae’r hawl i gael mynediad at wybodaeth yn rhan allweddol o’r hawl ehangach i ryddid mynegiant ac wedi’i diogelu gan sawl offeryn hawliau dynol, yn cynnwys Cyfamod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol, y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, a Deddf Hawliau Dynol 1998.

Pwrpas yr offerynnau hawliau dynol hyn yw cefnogi diwylliant o barch at hawliau dynol pawb a sicrhau bod hyrwyddo a chynnal yr hawliau hyn yn nodwedd o fywyd pob dydd.

Rhaid y symud at ‘ddigidol yn gyntaf’ a welsom ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus ddod law yn llaw â mesurau i sicrhau y diogelir hawliau dynol pobl hŷn a bod cymorth ar gael iddynt gael gafael ar y wybodaeth a’r gwasanaethau sydd ei angen arnynt drwy ddulliau all-lein, neu pe byddent yn dewis, drwy eu helpu i ennill y sgiliau a’r hyder i gysylltu ar-lein.

Lawrlwythwch y canllaw Esiamplau o Ymarfer Da

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges