Angen Help?
Two older men and two older women smiling and laughing while on the beach

Sicrhau Cymunedau Sy’n Ystriol o Oedran: Enghreifftiau o Arfer Da

i mewn Adnoddau
A woman with a VR headset on next to a man smiling

Inside – Outside: Fideos Realiti Rhithwir 360-gradd

Mae Prosiect Inside – Outside Dros 50 Caerffili wedi datblygu fideos realiti rhithwir 360-gradd yn unswydd ar gyfer pobl hŷn sy’n byw yng nghartrefi gofal y cyngor lleol.

Mae cyfanswm o 25 o fideos ar gael, gyda nifer ohonynt wedi deillio o geisiadau gan y cartrefi gofal, gan gynnwys Ffordd Goedwig Cwmcarn, Rheilffordd Dreftadaeth Blaenafon, Côr Meibion Caerffili yn ymarfer, Cofeb Genedlaethol y Glowyr yn Senghennydd, a Pharc y Rhath yng Nghaerdydd, sy’n ffefryn mawr.

Cafwyd arian ar gyfer y ffilmio/golygu a’r setiau VR gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Cafodd y rhan fwyaf o’r gwaith ffilmio a golygu ei wneud gan eu hymgynghorydd technegol, ond dysgodd gwirfoddolwr hefyd sut i wneud y gwaith, a oedd yn golygu bod modd cynhyrchu mwy o ffilmiau gyda’r gyllideb oedd ar gael.

Cafodd y prosiect ei sefydlu cyn dechrau’r cynllun Ystyriol o Oedran ond yn fuan ar ôl dyfodiad y pandemig COVID. Roedd hyn yn golygu eu bod yn gallu dal ati i ffilmio, ond nad oedd modd cysylltu â chartrefi gofal tan ddechrau eleni. Buont mewn cysylltiad ac yn gweithio ag uwch swyddogion Cyngor Caerffili, i drefnu arddangosiadau mewn cartrefi gofal lleol, gan weithio mewn partneriaeth â swyddog a oedd yn gyfrifol am gyflwyno’r fideos i gartrefi gofal yr oedd y Cyngor yn gyfrifol amdanynt, ac sy’n aml yn gofalu am bobl hŷn sy’n byw â dementia.

Drwy gydol yr haf, bu swyddogion y cyngor yn cysylltu â chartrefi gofal, a dywedodd rhai y byddent yn gwerthfawrogi help i gynnwys y fideos VR fel rhan o weithgareddau’r cartrefi. O ganlyniad, mae’r cyngor yn chwilio am wirfoddolwyr a all gynnig help o’r fath.

An older person on a digital bike surrounded by three helpers

Beiciau digidol yn helpu preswylwyr Clwyd Alun i hel atgofion, Ynys Môn

Cafodd pobl sy’n byw yng nghynllun Gofal Ychwanegol Hafan Cefni ym Môn feic digidol fel rhodd. Cafodd y beic ei adeiladu gan fyfyrwyr chweched dosbarth yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy, mewn partneriaeth â Chymunedau Digidol Cymru.

Cafodd y disgyblion Lefel A, dan arweiniad swyddogion y prosiect ‘Llwybrau Cof / Memory Lane’ yng Nghymunedau Digidol Cymru, y dasg o roi’r beic ymarfer at ei gilydd a chreu cysylltiad digidol â meddalwedd Google Street View, i alluogi’r sawl sy’n defnyddio’r beic i fynd ar daith hamddenol i leoliad o’u dewis.

Mae’r prosiect, a oedd yn bartneriaeth rhwng Ysgol David Hughes, Cymunedau Digidol Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn a North Wales Recycle IT, wedi creu ffordd wahanol i alluogi pobl hŷn i gael ymarfer corff ac i hel atgofion ar yr un pryd, rhywbeth nad oedd llawer ohonynt wedi’i wneud ers blynyddoedd.

A train pulling in to Cardiff Central train station

Age Connects Canol Gogledd Cymru ar y cyd â Chyngor Sir Ddinbych

Roedd pobl a oedd yn mynychu sawl un o’r fforymau wedi mynegi pryderon ynglŷn â defnyddio’r gwasanaethau trên, ac roedd rhai o’r pryderon yn ymwneud â’r canlynol amserlenni, archebu / argraffu tocynnau, a problemau hygyrchedd mewn gorsafoedd, e.e. grisiau, lifftiau, toiledau.

Gwahoddwyd Trafnidiaeth Cymru i fynychu’r fforymau ac i rannu gwybodaeth. O ganlyniad i’r cyflwyniadau hyn mae arian grant yn cael ei wario i ariannu dwy daith ‘Hyder i Deithio’. Mae’r arian yn cael ei ddefnyddio i dalu am fysiau i gasglu dau grŵp ac mae Trafnidiaeth Cymru’n talu cost taith drên drwy Ddyffryn Conwy. Fel rhan o’r daith bydd yr aelodau’n gweld sut y gall TFW helpu pobl i deithio â thrên a chynnig help ymarferol iddynt yn ogystal ag awgrymiadau ar sut i fynd ati i gynllunio eu teithiau yn y dyfodol.

Cafodd hyn ei groesawu gan y grwpiau dan sylw gan fod y rhai sydd wedi rhoi’r gorau i yrru naill ai oherwydd eu hoedran neu am resymau’n ymwneud â’u hiechyd yn croesawu’r cyfle i ddefnyddio’r system drenau.

Bydd y teithiau’n cael eu hadolygu a bydd adborth yn cael ei roi i TFW ar yr wybodaeth a rannwyd, a hefyd, ar nifer yr unigolion o’r grŵp sy’n dewis teithio eto ar drên.

Four older people sitting around a table laughing and eating

Shared Tables – Pobl hŷn yn bwyta allan gyda’i gilydd – Leeds

Mae Shared Tables, prosiect a ddatblygwyd yn ardal Cross Gates yn Leeds, yn gwahodd pobl hŷn sy’n byw ar eu pen eu hunain i gwrdd am bryd o fwyd gyda’i gilydd mewn bwyty lleol.

Mae Cynllun Cymdogion Da Cross Gates a’r Cylch CIO (CDGNS), mudiad cymunedol sy’n gweithio â phobl hŷn, wedi’i sefydlu i leihau unigrwydd, i annog annibyniaeth a hybu iechyd a llesiant yn ddiweddarach mewn bywyd.

Dechreuodd CDGNS ddatblygu’r prosiect Shared Tables ym mis Hydref 2015, ar ôl i bobl hŷn lleol dynnu sylw at brinder cyfleoedd cymdeithasol ar fin nos a phenwythnosau fel y prif rwystr rhag cynhwysiant cymdeithasol. Er bod gweithgareddau ar gael yn aml yn ystod yr wythnos waith, mi all min nos a phenwythnosau fod yn arbennig o unig.

Mae Shared Tables yn cynnig rhywbeth sy’n wahanol i ddigwyddiadau cymdeithasol mwy traddodiadol, fel boreau coffi, gan roi cyfle i gymdeithasu ar benwythnosau a min nos. Mae’r grŵp presennol o 11 bwrdd yn cwrdd bob chwarter i ddewis lleoliadau a dyddiadau ac amseroedd.

Mae trafodaethau ar waith i dreialu’r model mewn dwy ardal arall o Leeds.Mae’r elfen o ddewis a rheolaeth sydd gan y cyfranogwyr eu hunain yn golygu bod modd addasu Shared Tables i ddiwallu anghenion lleol. Er enghraifft, mae CDGNS yn dueddol o drefnu noswethiau Shared Tables yn ystod yr haf, am fod aelodau benywaidd wedi mynegi pryderon am deithio adref yn ddiogel yn y tywyllwch.

Age-friendly Durham's logo of a three wavy lines inside a circle

Cymuned Rhanbarth Durham, Canada – yr Ymgyrch Beauty of Experience

Mewn ymgynghoriad ag oedolion hŷn yn ystod proses gynllunio Ystyriol o Oedran Durham, datgelwyd fod rhagfarn ar sail oedran yn cael effaith negyddol ar ymdeimlad o gynhwysiant cymdeithasol a diogelwch yn y gymuned. Wedi’u hysbrydoli gan yr adborth, lansiodd Rhanbarth Durham a Chyngor Rhagfarn ar Sail Oedran Durham yr Ymgyrch Beauty of Experience i fynd i’r afael â’r mythau a’r stereoteipiau sy’n cael eu lledaenu am oedolion hŷn.

Cafodd yr ymgyrch ei hariannu gan ranbarth Ontario ac roedd yn cynnwys storïau 24 o oedolion hŷn o 8 ardal gan bwysleisio dysgu parhaus, creadigrwydd, gwirfoddoli a chyfranogiad cyflogwyr.

Cafodd y storïau hyn eu cynnwys mewn cyfres o bosteri a fideo addysgol, a’u rhannu drwy bapur newydd lleol, radio, yn ogystal â hysbysebion ar y Durham Region Transit, a chyfrifon Twitter, LinkedIn, a Facebook Rhanbarth Durham. Roedd postiadau ar gyfryngau cymdeithasol yn rhai llawn gwybodaeth ac yn gwrthbrofi’r mythau am heneiddio i addysgu’r gymuned am y profiad o heneiddio.

Roedd negeseuon yr ymgyrch yn pwysleisio priodoleddau positif heneiddio, gan gynnwys doethineb, profiad, a sgiliau. Roedd yn cyrraedd aelodau’r gymuned o bob oed, gan well dealltwriaeth y gymuned o realiti amrywiol heneiddio, a hybu cynhwysiant cymdeithasol a gwella diogelwch i bobl hŷn yn Durham. Roedd yn brofiad positif i’r cyfranogwyr ac roedd yn rhoi ymdeimlad o gywirdeb cymdeithasol a oedd wedi’i golli yn sgil y pandemig byd-eang.

A bench in a park

Feinciau sgwrsio, Gothenburg, Sweden

Yn Gothenburg, mae tua 20 o feinciau sgwrsio wedi’u gosod fel lle i gwrdd i gael sgwrs, i greu cyfleoedd mwy naturiol i bobl gyfarfod, i helpu i leihau ynysu cymdeithasol a lleddfu unigrwydd.

Dewiswyd y lleoliadau mwyaf addas ar gyfer y meinciau melyn sydd wedi’u gwneud o dderw tywyll, sydd â breichiau ar gyfer esmwythdra ychwanegol, gan bobl hŷn, ac maent yn awr i’w gweld ledled y ddinas.

Cafodd y meinciau sgwrsio eu gosod fel rhan o gynllun gweithredu ar gyfer Gothenburg Ystyriol o Oedran, sy’n gydweithrediad rhwng gweinyddiaethau, cwmnïau a phobl hŷn.

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges