Mae’r rhaglen waith hon yn nodi’r gwaith fydd yn cael ei gyflawni gan swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru rhwng mis Ebrill 2018 a mis Awst 2018.
Bydd Heléna Herklots yn ymgymryd â swydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ddiwedd Awst a bydd yn mynd ati wedyn i ddatblygu a chyhoeddi rhaglen waith ar gyfer gweddill 2018-19.
- Cyhoeddi Adroddiad Ailystyried Seibiant ar gyfer Pobl a Effeithir gan Ddementia
- Cyhoeddi Adroddiad Gwasanaethau Eiriolaeth yng Nghymru – Sicrhau Lleisiau i Bobl Hŷn
- Lansio’r Adroddiad Effaith a Chyrhaeddiad / Adroddiad Etifeddiaeth yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru
- Dadansoddi’r ymatebion a roddwyd gan gyrff cyhoeddus yn sgil cyhoeddi’r adroddiad dilynol ar yr Adolygiad o Gartrefi Gofal, ‘Lle i’w Alw’n Gartref?: Effaith a Dadansoddiad’
- Cyhoeddi llyfrynnau gwybodaeth ar gyfer pobl hŷn ynghylch Galluedd Meddyliol a threfniadau diogelu rhag colli rhyddid
- Gweithio mewn partneriaeth ag Age Cymru i gynhyrchu fideo i godi ymwybyddiaeth o eiriolaeth annibynnol a’i manteision
- Cyhoeddi canllaw poced i Wasanaethau Seibiant ar gyfer Pobl Hŷn sy’n Byw gyda Dementia a’u Gofalwyr