Angen Help?
A £10 note with four pound coins on a bed of £20 notes

PAPUR BRIFFIO: Argyfwng Costau Byw: Y camau sydd eu hangen i ddiogelu pobl hŷn

i mewn Adnoddau, Briffio
A hob burning

Wrth i’r argyfwng costau byw barhau, rydym yn clywed yn amlach am realiti’r sefyllfa bresennol i bobl hŷn sy’n byw ar incwm isel, sef y bobl hynny sydd ymysg y rhai y mae costau cynyddol a chwyddiant cynyddol yn effeithio arnynt fwyaf.

Rydym wedi clywed am unigolion sy’n methu fforddio’r ynni i goginio pryd poeth, a’r rheini sy’n rhy ofnus i droi’r goleuadau ymlaen rhag ofn y byddan nhw’n cael bil nad ydyn nhw’n gallu ei dalu.

I eraill, nid yw gweithgareddau sy’n hanfodol ar gyfer lles a allai gostio ychydig o bunnoedd – fel mynychu grŵp cymunedol neu gwrdd â ffrindiau – yn fforddiadwy mwyach.

Dylai pobl hŷn allu ymddeol gydag urddas, gyda digon o incwm o’u pensiwn gwladol a/neu ffynonellau eraill i fyw’n gyfforddus a’r gallu i barhau i gymryd rhan mewn cymdeithas.

Fodd bynnag, mae amgylchiadau ariannol pobl hŷn ledled Cymru’n gwaethygu, gyda miloedd o bobl yn cael eu gwthio i dlodi neu’n ddyfnach i dlodi.

Mae hyn yn golygu nad yw llawer o bobl hŷn yn gallu fforddio pethau hanfodol – fel bwyd a gwres – rhywbeth sy’n rhoi iechyd pobl mewn perygl sylweddol o ychwanegu rhagor o bwysau at y GIG sydd eisoes dan bwysau. Yn anffodus, mewn rhai achosion, bydd hyn yn arwain at bobl yn marw.

Mae’r Comisiynydd wedi nodi’r camau y mae angen eu cymryd yng Nghymru, yn y DU ac ar lefel leol i wella’r cymorth ariannol sydd ar gael i bobl hŷn.

Bydd cymryd y camau hyn yn hanfodol i sicrhau bod pobl hŷn yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt ar unwaith wrth inni wynebu’r argyfwng sy’n ymwneud â chostau byw a bod pobl hŷn, yn y tymor hwy, yn cael incwm teg nad yw’n eu gadael yn gaeth i dlodi parhaus

Darllenwch bapur briffio'r Comisiynydd

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges