Angen Help?
Older woman laughing with a younger woman

Lleisiau Cartrefi Gofal: Cipolwg ar fywyd yng nghartrefi gofal Cymru yn ystod Covid-19

i mewn Adnoddau, Ymchwil ac Adroddiad

Sut brofiad fu byw neu weithio mewn cartref gofal dros y misoedd diwethaf?  I fod yn ffrind neu’n berthynas preswylydd mewn cartref gofal, ac yn methu ymweld â nhw?  Mae wedi peri cryn bryder i mi, gan ein bod wedi gweld trychineb yn digwydd yn ein cartrefi gofal, nad yw lleisiau’r rhai pwysicaf yn hyn oll, sef yr ‘arbenigwyr yn ôl eu profiad’ wedi cael ei glywed ddigon.

Dyma’r rheswm dros gyhoeddi’r adroddiad hwn, sy’n rhoi llais i bobl sy’n byw ac sy’n gweithio yn ein cartrefi gofal, ac sy’n cynnig cipolwg ar eu profiadau nhw yn ystod pandemig Covid-19.

Seiliwyd yr adroddiad ar dros 120 o ymatebion (a gafwyd rhwng 14 Mai ac 05 Mehefin) gan bobl hŷn, eu teuluoedd a’u ffrindiau a staff cartrefi gofal i gyfres o gwestiynau am eu profiadau yn ystod y cyfyngiadau symud, y problemau a’r sialensiau y maent wedi eu hwynebu a’r newidiadau a’r gwelliannau yr hoffent eu gweld.  Rhannwyd ymatebion trwy gyfrwng ffurflen ar-lein, dros y ffôn, trwy negeseuon e-bost a llythyrau.  Trefnais sesiynau ymgysylltu hefyd gyda nifer fach o breswylwyr cartrefi gofal mewn cartrefi gofal yng ngogledd a de Cymru, er mwyn caniatáu trafodaethau manylach gyda phobl hŷn am eu profiadau dros y misoedd diwethaf.

Nid yn unig y mae’r adroddiad yn amlygu’r problemau a’r sialensiau y maent wedi’u hwynebu, ond mae’n rhoi sylw hefyd i rywfaint o’r arfer da sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl hŷn yn yr amgylchiadau anoddaf.  Yn ychwanegol i’r hyn a rennir fel rhan o’r adroddiad hwn, rhannwyd nifer o faterion eraill, mwy penodol, gyda mi, ac rydw i’n rhoi sylw i’r rhain hefyd.

Mae’r adroddiad yn cynnwys sawl galwad i weithredu – ar sail yr hyn y mae pobl hŷn, eu teuluoedd a’u ffrindiau, a staff cartrefi gofal wedi ei rannu gyda mi – sy’n nodi’r hyn y mae angen iddo ddigwydd, ar unwaith ac yn y tymor hwy, er mwyn sicrhau bod pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yn cael eu cadw’n ddiogel ac yn cael eu diogelu, a’u bod yn mwynhau bywyd o’r ansawdd gorau ag y bo modd.

Hoffwn ddiolch i bawb a neilltuodd yr amser i ymateb a rhannu eu profiadau gyda mi.  Gwn y byddai hyn wedi bod yn hynod o anodd i rai, ond mae’n hanfodol ein bod yn clywed eu lleisiau a’u bod wrth wraidd cynlluniau a phenderfyniadau am yr hyn sy’n digwydd yn ein cartrefi gofal wrth i ni droedio’r llwybr anodd o’n blaenau.
Mae’r adroddiad hwn a’m galwadau i am weithredu yn fan cychwyn pwysig, ond bydd angen gweithredu pellach ac ehangach, yn enwedig dros y tymor hwy.  Felly fel Comisiynydd, byddaf yn parhau i ymgysylltu gyda phobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau, a gyda staff cartrefi gofal ar draws Cymru er mwyn sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed ac yn parhau i gael eu clywed, ac y defnyddir eu profiadau i ysgogi newid, nawr ac yn y dyfodol.

Cliciwch yma i lawrlwytho Lleisiau Cartrefi Gofal

 


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges