Angen Help?

Gwneud Cymru y lle gorau yn y byd i heneiddio: Strategaeth 2019-22

i mewn Adnoddau, Ymchwil ac Adroddiad

Braint yw bod yn Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, swydd y dechreuais ym mis Awst 2018. Rwyf wedi bod yn gweithio gyda phobl hŷn ers 30 mlynedd, yn ceisio gwella’r profiad o heneiddio, a’r profiad o fod yn berson hŷn. Ac fel y rhan fwyaf ohonom, mae gen i hefyd brofiad o adnabod ac o ofalu am bobl hŷn yn fy nheulu ac o blith fy ffrindiau.

Mae mynd yn hŷn a byw mewn cymdeithas sy’n mynd yn hŷn yn rhywbeth y bydd y rhan fwyaf ohonom yn cael profiad ohono, a bydd gwella hyn o fudd i ni gyd.

Mae gan Gymru le i fod yn falch ohono o ran y gwaith mae’n ei wneud i wella bywydau pobl hŷn, ac mae mynd yn hŷn wedi bod yn brofiad cadarnhaol, ac sydd wedi cynnig amryw o gyfleoedd newydd i lawer o bobl rwyf wedi cwrdd â nhw ers i mi ddechrau yn fy swydd.

Ond, nid yw hyn yn wir i bawb, yn enwedig i’r rhai sydd fwyaf agored i niwed. Mae angen gwneud llawer mwy i sicrhau bod pob person hŷn yn gallu cael yr ansawdd bywyd gorau, yn gallu cadw’n heini a chymryd rhan, a chael mynediad at y gwasanaethau a’r cymorth sydd ei angen arnynt, ac i wneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw.

Yn 2006, roedd Cymru’n arwain y byd pan gyflwynwyd deddfwriaeth yma i sefydlu Comisiynydd Pobl Hŷn annibynnol ag ystod o bwerau cyfreithiol unigryw. Mae gennym ni gyfle i arwain y ffordd unwaith eto, ac yn y strategaeth hon, rwy’n amlinellu’r blaenoriaethau sydd angen eu gweithredu er mwyn gwneud i hyn ddigwydd, yn ogystal ag amlinellu fy rhan i mewn gwneud Cymru y lle gorau yn y byd i fynd yn hŷn.


Heléna Herklots CBE

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

 

Cliciwch yma i lawrlwytho Gwneud Cymru y lle gorau yn y byd i heneiddio: Strategaeth 2019-22

Cliciwch yma i lawrlwytho rhaglen waith y Comisiynydd (crynodeb)

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges