Angen Help?
An older man looking upset while staring out of the window

Gwella’r Gefnogaeth a’r Gwasanaethau i Ddynion Hŷn sy’n Cael eu Cam-drin yn Ddomestig

i mewn Adnoddau, Ymchwil ac Adroddiad

Mae dynion hŷn sy’n profi cam-drin domestig yn wynebu heriau a rhwystrau sylweddol wrth geisio cymorth a chefnogaeth, meddai’r Comisiynydd

Mae adroddiad newydd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi canfod bod dynion hŷn sy’n profi cam-drin domestig yn wynebu heriau a rhwystrau sylweddol wrth geisio cymorth a chefnogaeth, sy’n golygu na fyddant o bosibl yn gallu dianc rhag perthnasoedd camdriniol, gan eu rhoi mewn perygl o niwed corfforol a seicolegol.

Yn ôl yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (23 Awst), gallai dynion hefyd fod yn amharod i ofyn am gymorth oherwydd y stigma o fod yn ddyn sy’n dioddef cam-drin, a bod y nifer fach o wasanaethau cam-drin domestig sydd wedi’u hanelu’n benodol at ddynion yn brin o adnoddau, sy’n golygu bod y cymorth y gallant ei ddarparu yn brin yn aml iawn.

Mae’r ymchwil y mae’r adroddiad yn seiliedig arno yn rhan o raglen ehangach o waith a wneir gan y Comisiynydd sy’n canolbwyntio ar roi terfyn ar gam-drin pobl hŷn, sy’n cynnwys gwaith partneriaethol gyda mwy na 30 o aelodau o Grŵp Gweithredu Atal Cam-drin y Comisiynydd, a sefydlwyd ganddi yn 2020 i weithredu i wella gwasanaethau a chymorth ledled Cymru ar gyfer pobl hŷn sy’n cael eu cam-drin.

Ochr yn ochr â chydnabod mai menywod yw’r mwyafrif helaeth o bobl sy’n cael eu cam-drin, a bod angen gweithredu ac adnoddau ychwanegol i sicrhau bod menywod hŷn sy’n dianc rhag camdriniaeth yn gallu cael y cymorth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, roedd ymgysylltu ag aelodau’r grŵp gweithredu hefyd wedi tynnu sylw at bryderon am y dystiolaeth gyfyngedig iawn sydd ar gael am brofiadau dynion o gam-drin, er yr amcangyfrifir mai dynion yw 1 o bob 4 o ddioddefwyr cam-drin domestig, a bod risg uwch i ddynion hŷn.

Cynhaliwyd yr ymchwil ar ran y Comisiynydd gan Opinion Research Services (ORS), a gasglodd dystiolaeth drwy gyfweliadau manwl â dynion dros 50 oed sydd wedi goroesi camdriniaeth, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol yn gweithio ar draws amrywiaeth o wasanaethau cam-drin domestig a gwasanaethau cyhoeddus eraill ledled Cymru.

Mae’r adroddiad yn edrych ar y gwahanol ffyrdd y gall dynion gael eu cam-drin, y rhwystrau a’r heriau y mae dynion yn eu hwynebu wrth geisio cael gafael ar gymorth, a’r ffyrdd y gellid gwella gwasanaethau a chymorth yng Nghymru.

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys dyfyniadau gan y goroeswyr gwrywaidd a gymerodd ran, ynghyd ag astudiaethau achos manylach, i ddangos yr hyn yr aethant drwyddo a’r anawsterau niferus a wynebwyd ganddynt wrth geisio cymorth.

Mae’r adroddiad yn galw am weithredu gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i wella gwasanaethau a chymorth drwy godi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o brofiadau dynion hŷn, darparu hyfforddiant i weithwyr proffesiynol sy’n dod i gysylltiad â phobl hŷn er mwyn iddynt allu adnabod cam-drin a chynnig cymorth priodol, a gwella data a thystiolaeth sy’n ymwneud â phrofiadau dynion hŷn o gam-drin domestig, a hynny er mwyn sicrhau bod y polisïau a’r gwasanaethau cywir ar waith i ddynion hŷn gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt.

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Diolch o galon i’r holl ddynion hŷn a gymerodd ran yn yr ymchwil, am siarad mor agored a gonest am y profiadau erchyll yr aethant drwyddynt er mwyn helpu dynion eraill a allai eu cael eu hunain mewn sefyllfaoedd tebyg, a hynny drwy ddarparu tystiolaeth hollbwysig ynglŷn â pham mae angen newid a gwella.

“Hoffwn ddiolch hefyd i’r Comisiynydd am gasglu tystiolaeth hanfodol sy’n dangos y ffyrdd penodol y gall cam-drin effeithio ar ddynion hŷn a’r anawsterau y gallant eu hwynebu wrth geisio cymorth.

“Mae canfyddiadau’r ymchwil yn dangos yn glir bod dynion sy’n profi cam-drin domestig yn wynebu rhwystrau a heriau bob cam o’r ffordd, a bod hynny’n gallu eu hatal rhag cael y cymorth sydd ei angen arnynt, gan arwain at risg sylweddol o niwed iddynt.

Bydd y camau sy’n cael eu cymryd i ymateb i adroddiad y Comisiynydd yn cael eu harchwilio’n fanylach mewn gweminar ym mis Hydref, a bydd hyn yn rhoi cyfle i sefydliadau sy’n gweithio gyda, ac ar ran, pobl hŷn ledled Cymru ddysgu mwy am y ffyrdd y gallant helpu i sicrhau bod dynion hŷn sy’n cael eu cam-drin yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Dywedodd John, dyn hŷn sydd wedi goroesi cam-drin ac a gymerodd ran yn yr ymchwil:

“Cefais fy ngorfodi i gerdded bant ar 26 mlynedd o briodas yn 2016.

Wrth edrych yn ôl, dylwn fod wedi gwneud hyn yn gynharach o lawer. Ond doeddwn i ddim yn barod i wneud hynny. Yn gyntaf, roeddwn i’n ofni na fyddai neb yn fy nghredu, ac yn ail, doeddwn i ddim yn ymwybodol o’r gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi dynion sy’n cael eu cam-drin. Does gen i ddim cof gweld hysbysebion yn cyfeirio’n uniongyrchol at ddynion sy’n cael eu cam-drin.

Yn y pen draw, cefais gymorth gan fudiad a’m helpodd i ddod i delerau â’m math penodol o gam-drin, ymddygiad sy’n gorfodi ac yn rheoli a arweiniodd, yn y pen draw, at drais. Dim ond bryd hynny y sylweddolais mai nad fi oedd yr unig un yn y math yma o sefyllfa.

Teimlais nad oedd yr asiantaeth hon, er ei bod yn ddefnyddiol iawn, yn meddu ar yr adnoddau, yn ariannol nac o ran personél, i fynd i’r afael ag achosion o gam-drin domestig ymysg dynion.

Yn fy marn i, mae angen gwneud mwy i sicrhau bod pawb yn ymwybodol bod y gwasanaethau hyn ar gael i ddynion sy’n cael eu cam-drin, gan y byddai hyn yn eu hannog i ofyn am gyngor a chefnogaeth cyn iddi fod yn rhy hwyr. ”

Ychwanegodd y Comisiynydd:

“Mae angen gwneud llawer mwy i godi ymwybyddiaeth o faint y broblem hon a’r ffyrdd penodol y gall cam-drin effeithio ar ddynion hŷn, a hynny er mwyn sicrhau bod y polisïau a’r gwasanaethau cywir ar waith yng Nghymru, a bod staff sy’n gweithio ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus yn gallu adnabod cam-drin a rhoi dynion hŷn mewn cysylltiad â’r gefnogaeth briodol.

“Dyna pam mae’n hanfodol bod y newid rwy’n galw amdano yn yr adroddiad yn cael ei gyflawni a pham, fel Comisiynydd, rydw i eisoes wedi dechrau gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol – sy’n cynnwys gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus yng Nghymru, Comisiynydd Cam-drin Domestig Cymru a Lloegr, a Chomisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr – i fwrw ymlaen â’r camau gweithredu angenrheidiol a gwella’r cymorth sydd ar gael i ddynion hŷn sy’n profi cam-drin neu mewn perygl o gael eu cam-drin.”

DIWEDD

Darllenwch adroddiad y Comisiynydd yma

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges