Mae amrywiadau sylweddol ac annerbyniol ym mhrofiadau pobl hŷn o gael gafael ar wasanaethau Meddygon Teulu a’u defnyddio yng Nghymru, gyda phroblemau penodol o ran y broses o drefnu apwyntiadau, pa mor hygyrch yw meddygfeydd Meddygon Teulu ac amgylchedd y meddygfeydd, yr amser sydd ar gael mewn apwyntiad, cyfathrebu a phreifatrwydd.
Dyna ganfyddiad adroddiad newydd – Gwasanaethau Meddygon Teulu yng Nghymru: Safbwynt Pobl Hŷn – a gyhoeddwyd heddiw gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Mae canfyddiadau’r Comisiynydd yn seiliedig ar wybodaeth sy’n cael ei rhannu gan dros 1,600 o bobl hŷn o bob cwr o Gymru ac ystod eang o randdeiliaid o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector.
Er bod nifer o’r rheini wnaeth ymateb wedi siarad yn gadarnhaol am eu gwasanaethau Meddygon Teulu, nododd llawer o bobl eraill bryderon am ystod o faterion sy’n gallu creu heriau a rhwystrau diangen.
Gallai’r materion hyn rwystro pobl hŷn rhag cael gafael ar wasanaethau Meddygon Teulu, neu eu gorfodi i ddefnyddio gwasanaethau gofal eraill, llai priodol a heb eu trefnu, sy’n cael effaith negyddol ar eu hiechyd a’u lles.
Wrth drafod yr adroddiad a’i ganfyddiadau, dywedodd Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: “Rwy’n deall y pwysau sylweddol sy’n wynebu gwasanaethau Meddygon Teulu a’r sector gofal sylfaenol ehangach, a’r heriau gwirioneddol y gall y pwysau hwn eu creu.
“Ond mewn cyfnod fel hwn, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn gwrando ar brofiadau pobl hŷn ac yn eu deall er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw bryderon a chyflwyno gwelliannau parhaus er mwyn sicrhau na fydd yn rhaid talu cost uwch yn y pen draw.
“Mae fy adroddiad yn cyfleu safbwyntiau pobl hŷn mewn cymunedau ar draws Cymru yn dibynnu ar wasanaethau Meddygon Teulu i ddarparu gofal iechyd effeithiol, amserol, diogel o safon uchel iddynt yn agos at eu cartrefi, ac i roi cymorth iddynt gael mynediad at amrywiaeth ehangach o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
“Mae’n hollbwysig bod yr arferion da sydd eisoes ar waith, y tynnir sylw atynt drwy gydol fy adroddiad, yn dod yn safon ar gyfer Cymru gyfan, er mwyn sicrhau y gall pob person hŷn gael profiad cadarnhaol wrth gael gafael ar wasanaethau Meddygon Teulu a’u defnyddio.”
“Rwyf felly yn disgwyl i Fyrddau Iechyd weithredu ar y canfyddiadau er mwyn sicrhau bod y rhain yn hyblyg ac yn ymatebol i anghenion unigol pobl hŷn, yn enwedig y rheini sy’n byw gyda nam ar y synhwyrau, nam gwybyddol neu ddementia, y rheini sy’n ofalwyr neu’r rheini sy’n agored i niwed.”
Ynghyd â’r adroddiad, mae’r Comisiynydd wedi defnyddio ei phwerau dan Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 i gyhoeddi canllaw ffurfiol i Fyrddau Iechyd, y mae’n rhaid iddynt ei ystyried wrth gyflawni eu swyddogaethau. Mae’r canllaw yn nodi’r canlyniadau disgwyliedig ar gyfer pobl hŷn sy’n defnyddio gwasanaethau Meddygon Teulu ac yn cynnwys enghreifftiau o arferion da ac awgrymiadau o gwestiynau craffu i aelodau’r Bwrdd Iechyd.
Ychwanegodd y Comisiynydd: “Er fy mod yn sylweddoli beth yw’r heriau o ran sicrhau’r newid angenrheidiol, bydd methu mynd i’r afael â’r materion rwyf wedi tynnu sylw atynt yn fy adroddiad yn cael effaith sylweddol nid yn unig ar wasanaethau iechyd ehangach a phwrs y wlad, yn bwysicach na hynny ar iechyd a lles pobl hŷn ym mhob cwr o Gymru.”
Lawrlwytho gwasanaethau meddygon teulu yng nghymru: safbwynt pobl hŷn Ymatebion yr holiadur