Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn un o gyfreithiau Cymru sy’n nodi’r ffyrdd y mae’n rhaid i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth, gofal a chymorth i bobl hŷn.
Mae’r Comisiynydd wedi cynhyrchu cyfres o daflenni gwybodaeth i ddarparu gwybodaeth am wahanol rannau o’r Ddeddf a’r hawliau sydd gennych o dan y ddeddfwriaeth hon, sydd ar gael i’w llwytho i lawr isod. Os hoffech chi gael copi wedi’i argraffu o unrhyw un o’r taflenni gwybodaeth, cysylltwch â ni. Gallwch lawrlwytho fersiynau Hawdd eu Darllen a Sain isod. Mae fersiynau BSL yma.