Yn yr adroddiad hwn rwyf yn disgrifio camau tymor byr yr wyf yn creu y mae’n rhaid inni eu cymryd yn awr ac yn ystod y tri mis nesaf, a chamau mwy tymor hir y mae’n rhaid gweithredu arnynt cyn gynted â phosibl ond a fydd yn cymryd peth amser i’w gwireddu. Byddaf yn parhau i weithredu fel y Comisiynydd Pobl Hŷn – mewn rhai achosion yn cefnogi ac yn cyfrannu at waith sy’n cael ei arwain gan eraill; yn cydweithio â sefydliadau eraill i ddod â newid, a lle bydd angen i graffu a dwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif am eu gweithredoedd neu ddiffyg gweithredu i warchod hawliau pobl hŷn.
Drwy gydol y cyfnod hwn byddaf yn parhau i ymgysylltu ac i wrando ar grwpiau ac unigolion ledled Cymru, a bydd yr hyn y byddaf yn ei wneud yn seiliedig ar brofiadau cyfoes pobl hŷn a’u syniadau a’u barn am yr hyn ddylai newid.
Mae cyfnod o ansicrwydd a heriau anodd yn ein hwynebu, a rhaid inni sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu drwy brofiadau’r misoedd diwethaf. Mae angen gwarchod hawliau pobl hŷn yn well, a lle maent wedi’u colli, rhaid eu hadfer. Rhaid gwneud yn siŵr na fydd yr allgau mae llawer o bobl hŷn wedi’i brofi a’i deimlo yn parhau. Rhaid i’r rhai sydd wedi colli anwyliaid gael cefnogaeth wrth iddynt alaru, a rhaid i’r sawl sydd wedi’u gwahanu oddi wrth anwyliaid gael dod at ei gilydd unwaith eto. Wrth i gynlluniau gael eu gwneud gan y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus i symud ymlaen o’r cam hwn o’r pandemig, rhaid cael addewid na fydd ‘neb yn cael eu gadael ar ôl’.
Heléna Herklots CBE
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Cliciwch yma i lawrlwytho Gadael Neb ar Ôl: Camau Gweithredu ar gyfer adferiad o blaid pobl hŷn