Mae sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu diogelu a’u gwarchod wedi bod yn ganolbwynt allweddol i’m gwaith fel Comisiynydd, ac rwyf wedi gweithio gyda gweithwyr proffesiynol ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o faterion diogelu a sut gellir mynd i’r afael â’r rhain.
Rwyf wedi croesawu dyhead Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i wella diogelu oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin a’u hesgeuluso drwy roi diogelu ar sail statudol a gosod dyletswyddau newydd ar asiantaethau statudol, ac roeddwn eisiau adolygu’r gwahaniaeth mae’r Ddeddf yn ei wneud i waith diogelu Byrddau Iechyd.
Gan hynny, ysgrifennais at y Byrddau Iechyd ym mis Mehefin 2017, gan ofyn iddyn nhw gymryd rhan mewn adolygiad i bennu pa mor effeithiol maen nhw’n ymateb i’w dyletswyddau newydd mewn perthynas â diogelu oedolion sy’n deillio o’r Ddeddf, ac yn benodol y gofynion o dan Adrannau 7 a 10.
Cyfrannodd pob un o’r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru, yn ogystal ag Ymddiriedolaeth GIG Felindre, yn gadarnhaol iawn at yr adolygiad hwn. Cyfeirir atyn nhw ar y cyd fel ‘Byrddau Iechyd’ yn yr adroddiad. Mae’r adolygiad yn canolbwyntio ar ddiogelu pobl hŷn, ac nid yw’n cynnwys agweddau eraill ar ddiogelu y mae timau diogelu Byrddau Iechyd hefyd yn ymwneud â nhw (diogelu plant, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, troseddau casineb, caethwasiaeth fodern, gwrthderfysgaeth a Threfniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid).
Cliciwch yma i lawrlwytho Diogelu mewn Ysbytai yng Nghymru