Ym mis Tachwedd 2022, cyhoeddodd y Comisiynydd bapur briffio, a oedd yn tynnu sylw at y ffaith nad yw hyd at 80,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn cael y Credyd Pensiwn y mae ganddynt hawl iddo. Mae hyn yn golygu bod dros £200 miliwn yn cael ei adael heb ei hawlio yn Nhrysorlys y DU, yn hytrach na chyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf.
Roedd y papur briffio yn galw ar Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol i gymryd camau brys i gynyddu’n sylweddol nifer y bobl hŷn yng Nghymru sy’n cael Credyd Pensiwn, gan dynnu sylw at y rôl hollbwysig y gallai’r trydydd sector ei chwarae wrth fwrw ymlaen â hyn.
Mae’r papur briffio hefyd yn nodi’r camau y byddai’r Comisiynydd yn eu cymryd i helpu i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnynt i hawlio’r Credyd Pensiwn y mae ganddynt hawl iddo.
Un o’r camau gweithredu hyn oedd cynnal Uwchgynhadledd Credyd Pensiwn i ddod â sefydliadau cenedlaethol a chymunedol at ei gilydd ac ysbrydoli a chefnogi camau gweithredu ledled Cymru. Cynhaliwyd y digwyddiad ar-lein hwn ar 8 Rhagfyr 2022. Roedd amrywiaeth o unigolion a sefydliadau allweddol yn bresennol, pob un yn cyfrannu syniadau ac yn addo camau
gweithredu i helpu i gyrraedd mwy o bobl sy’n colli allan ar hyn o bryd.