Angen Help?
Three older women and an older man laughing and sitting on a sofa while looking at a tablet

Cymuned Ymarfer Oed Gyfeillgar

i mewn Adnoddau

Cymuned Ymarfer Oed Gyfeillgar

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi sefydlu Cymuned Ymarfer Oed Gyfeillgar i Gymru – fforwm lle gall pobl ddod ynghyd i rwydweithio a rhannu gwybodaeth, syniadau ac arferion da i ddatblygu Cymunedau Oed Gyfeillgar, sy’n eiddo i ac sy’n cael eu llywio gan yr aelodau a lle gall pobl hŷn wneud cyfraniad uniongyrchol fel partneriaid allweddol o’r cychwyn cyntaf.

Mae cymunedau Oed Gyfeillgar yn helpu i sicrhau ein bod yn teimlo ein bod yn cael ein gwerthfawrogi, ein clywed, ein cynnwys a’n parchu, a’n bod yn gallu gwneud y pethau sy’n bwysig wrth i ni heneiddio. Maent yn lleoedd lle mae pobl hŷn, cymunedau, polisïau, gwasanaethau, lleoliadau a strwythurau yn cydweithio mewn partneriaeth i gefnogi a galluogi pob un ohonom i heneiddio’n dda.

Mae’r Comisiynydd wedi dwyn ynghyd astudiaethau achos o Gymunedau Oed-Gyfeillgar ar waith, i ddangos manteision prosiectau heneiddio’n dda.

 

Darllenwch yr Astudiaethau Achos Yma
Portrait of an older woman talking on the phone

Sut all y Gymuned Ymarfer ein helpu i gynorthwyo pobl hŷn?

  • Rhannu syniadau a’u rhoi ar waith.
  • Creu dysgu a chyfleoedd i drafod a rhoi sylw i broblemau neu rwystrau.
  • Rhoi cyfle i rannu adnoddau.
  • Rhannu gwybodaeth am gyfleoedd cyllido, a allai gynnwys ceisiadau ar y cyd am ragor o gyllid.
  • Cyfarfodydd rheolaidd i glywed y newyddion diweddaraf ac i rannu gwybodaeth.
Three older women hugging and laughing with each other

Pam ymuno â Chymuned Ymarfer?

Gofod i:

  • Rhannu arferion da a gwybodaeth am yr hyn sy’n gweithio’n dda i greu cymunedau Oed Gyfeillgar.
  • Galluogi dysgu a datblygu.
  • Bod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau / codi ymwybyddiaeth.
  • Trafod sut mae gwahanol fannau wedi ymgymryd â gwahanol feysydd gwaith, gan gynnwys goresgyn rhwystrau.
  • Dylanwadu ar ymarfer a pholisi ledled Cymru, drwy rannu syniadau, profiadau a heriau â chymheiriaid.
  • Galluogi partneriaid i drafod eu gwaith Oed Gyfeillgar, a rhwydweithio ar draws ffiniau sirol a rhanbarthol.

Mae’r Gymuned Ymarfer yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd i rannu gwybodaeth, syniadau ac arferion da, ac i gydweithio i wneud cymunedau ledled Cymru yn oed-gyfeillgar. Bydd y grŵp hefyd yn rhoi cyfle i drafod a mynd i’r afael â materion neu rwystrau, yn ogystal â chyfle i gyfuno adnoddau.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno, ffoniwch 03442 640670 neu anfonwch e-bost at agefriendly@olderpeople.wales.

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges