Mynediad at wybodaeth a gwasanaethau mewn oes ddigidol: Crynodeb o’r ymatebion gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd
Mae’r defnydd cynyddol o dechnoleg ddigidol yn golygu bod y ffyrdd yr ydym yn cael mynediad at wasanaethau a gwybodaeth, a’r ffyrdd yr ydym yn cyfathrebu, wedi newid yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf.
Yn ystod y pandemig Covid-19 bu cyrff cyhoeddus ledled Cymru yn defnyddio’r rhyngrwyd i gyflenwi eu gwasanaethau a darparu gwybodaeth yn ddigidol, fodd bynnag, dangosodd y pandemig y rhaniad digidol mawr sy’n bodoli yng Nghymru ac roedd llawer o bobl hŷn yn cael anhawster i gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau.
Mewn ymateb i’r newid sylweddol hwn i’r ffordd yr oedd gwasanaethau’n cael eu cyflenwi, cyhoeddodd y Comisiynydd ganllawiau i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ym mis Tachwedd 2021 – ‘Sicrhau mynediad at wybodaeth a gwasanaethau mewn oes ddigidol’ – sy’n nodi’r mathau o gamau y dylent fod yn eu cymryd er mwyn i’r bobl nad ydynt yn gallu (neu nad ydynt yn dymuno) mynd ar-lein i gael ffyrdd o gael mynediad at y wybodaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt drwy ddulliau nad ydynt yn ddigidol, a chefnogi pobl hŷn i fynd ar-lein.
Datblygwyd y canllawiau mewn partneriaeth â phobl hŷn a rhanddeiliaid allweddol a chawsant eu cyhoeddi o dan Adran 12 Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Cymru) 2006, sy’n golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ystyried y canllawiau wrth gyflawni eu swyddogaethau.
Yn y canllawiau mae’r Comisiynydd yn datgan bod yr hawl i gael mynediad at wybodaeth yn elfen allweddol o’r hawl ehangach i ryddid mynegiant ac mae wedi’i warchod ar draws nifer o offerynnau hawliau dynol, gan gynnwys Cyfamod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol, a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a Deddf Hawliau Dynol 1998.
Mae’r Canllawiau yn esbonio bod yn rhaid i unrhyw symudiad i wasanaethau digidol gael ei ategu gan fesurau i sicrhau bod hawliau dynol pobl hŷn yn cael eu diogelu a’u bod yn cael eu galluogi i gael mynediad at wybodaeth a chael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt drwy sianeli all-lein, neu os ydynt yn dewis, eu bod yn cael eu cefnogi i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder i allu cysylltu ar-lein. Mae enghreifftiau o arfer da sydd eisoes ar waith mewn rhai rhannau o Gymru er mwyn sicrhau mynediad nad yw’n ddigidol at wybodaeth a gwasanaethau yn ogystal â mentrau i gefnogi pobl hŷn i fynd ar-lein yn ddiogel wedi’u cynnwys yn y Canllawiau hefyd.
Cyhoeddwyd ffurflen gyda’r Canllawiau i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ei chwblhau a’i dychwelyd. Roedd yr adran gyntaf yn ceisio casglu enghreifftiau o’r mesurau sydd ar waith yn awr i ddarparu mynediad at wybodaeth drwy ddulliau nad ydynt yn ddigidol yn ogystal ag unrhyw gynlluniau i hwyluso neu wella mynediad yn y dyfodol, ac roedd yr adran arall yn ceisio casglu enghreifftiau o’r mesurau sydd ar waith yn awr i alluogi a chefnogi pobl hŷn i fynd ar-lein yn ogystal ag unrhyw gynlluniau i gefnogi pobl hŷn ymhellach i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder i weithredu ar-lein yn y dyfodol.
Mae’r adroddiad crynodeb yn darparu trosolwg o’r mathau o fesurau a fabwysiadwyd gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd
Darllenwch yr adroddiad crynodeb