A ydym yn gallu sicrhau mai Cymru yw’r lle gorau yn y byd i ni heneiddio?
Fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, rydw i’n argymell y dylem gydweithio ar draws cymdeithas er mwyn sicrhau mai Cymru yw’r lle gorau yn y byd i bobl heneiddio. Mae’r adroddiad hwn yn nodi ble ry’n ni arni ar y siwrnai hon.
Er mwyn sicrhau cynnydd, mae angen i ni ddeall ein man cychwyn. Beth yw amgylchiadau pobl hŷn heddiw? Beth yw’r tueddiadau? Ble’r ydym yn llwyddo fel cymdeithas sy’n heneiddio a ble y gwelir y problemau y mae angen mynd i’r afael â nhw? A ydym yn casglu’r data a’r dystiolaeth y mae ei hangen arnom er mwyn gweithredu’r polisïau a’r camau gweithredu cywir? Beth ydym yn ei wybod am brofiadau o ragfarn ar sail oedran, camdriniaeth a’r gallu i heneiddio’n dda, ynghyd â graddau’r rhain?
Mae’r adroddiad hwn yn dangos bod gennym rai sylfeini da er mwyn datblygu’r gwaith hwn. Mae’r rhan fwyaf o bobl hŷn yn teimlo eu bod yn rheoli eu bywydau ac maent yn teimlo y gallant wneud y pethau sy’n bwysig iddynt. Mae pobl hŷn yn gwneud cyfraniad sylweddol i gymdeithas mewn sawl gwahanol ffordd, trwy wirfoddoli, gofalu a gweithio, ac mae’r rhan fwyaf yn gallu cyrraedd cyfleusterau a gwasanaethau lleol. Mae henaint yn brofiad cadarnhaol i nifer – ac mae’n bwysig bod hyn yn cael ei gydnabod a’i ddathlu.
Mae’r adroddiad yn dangos hefyd, fodd bynnag, yr anghydraddoldebau amlwg sy’n bodoli o fewn y boblogaeth hŷn yng Nghymru, ynghyd â’r meysydd lle y mae pethau’n gwaethygu ar gyfer pobl hŷn. Yn dilyn gostyngiad mewn lefelau tlodi, gwelir cynnydd ynddynt bellach; mae disgwyliad oes iach rhwng yr ardaloedd lleiaf difreintiedig a’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn amrywio gymaint â 18 mlynedd. Nid oes niferoedd sylweddol o bobl hŷn yn gallu manteisio ar y gwasanaethau lleol y mae eu hangen arnynt; nid ydynt yn gwybod eu hawliau; ac nid ydynt yn gallu heneiddio’n dda.
Efallai y byddem wedi credu y byddai’r gwelliannau i fywydau pobl hŷn a sicrhawyd yn ddiweddar yn para, ond ni ellir bod yn siŵr o hyn. Mewn meysydd eraill, rydym yn wynebu problem diffyg gwybodaeth ynghylch profiadau pobl hŷn. Mae hyn yn arbennig o amlwg mewn perthynas â chamdriniaeth, lle nad oes llawer o’r data sydd ar gael yn cael ei ddosbarthu yn ôl oedran, a lle y mae lefelau tanadrodd camdriniaeth yn gwaethygu’r broblem.
Dan yr amgylchiadau hyn, gall pobl hŷn a’u profiadau fod yn anweledig. Mae’r adroddiad hwn am Gyflwr y Genedl yn rhoi sylw i’r meysydd hynny y mae angen i ni wneud gwelliannau ynddynt, a lle y mae angen i ni ddatblygu’r dystiolaeth. Yn gyffredinol, mae’n dangos i ni y gall Cymru fod y lle gorau yn y byd i heneiddio, a bod gennym rai o’r sylfeini yn eu lle. Mae gennym oll rôl i’w gyflawni wrth geisio gwireddu hyn, a byddwn oll yn cael budd o hynny.
Lawrwytho Adroddiad Cyflwr y Genedl 2019 Lawrwytho Adroddiad Cyflwr y Genedl 2019: Atodiad Data