Mae bron i un o bob pump o bobl hŷn Cymru yn byw mewn tlodi, ac mae incwm yn crebachu mewn termau real fesul wythnos wrth i chwyddiant barhau i gael effaith.
Bydd yr argyfwng costau byw yn gwthio hyd yn oed mwy o bobl hŷn i dlodi dros fisoedd y gaeaf, gan beryglu eu hiechyd yn sylweddol.
Felly, mae’n bwysicach nag erioed bod pobl hŷn yn cael yr holl gymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo, gan gynnwys Credyd Pensiwn, sy’n gallu cynnig gobaith i rai o’r bobl hŷn dlotaf a mwyaf agored i niwed yng Nghymru.
Fodd bynnag, amcangyfrifir nad yw hyd at 80,000 o aelwydydd cymwys yng Nghymru yn hawlio’r Credyd Pensiwn y mae ganddynt hawl iddo. Bob blwyddyn, mae hyn yn golygu bod yw dros £200 miliwn yn aros yn Nhrysorlys y DU heb ei hawlio, yn hytrach na chyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf.
Mae angen gweithredu i gynyddu’n sylweddol nifer y bobl hŷn yng Nghymru sy’n cael y Credyd Pensiwn y mae ganddynt hawl iddo, er mwyn sicrhau nad ydynt yn dal i golli allan ar y cymorth hanfodol hwn.
Darllenwch bapur briffio'r Comisiynydd