Angen Help?

Costau Byw: Hawliau Ariannol – Cwestiynau Cyffredin

i mewn Adnoddau, Taflen Wybodaeth

Gyda’r cynnydd diweddar mewn costau byw, bydd llawer o bobl hŷn yn poeni am siopa bwyd, llenwi eu car â thanwydd a chynhesu eu cartrefi.

Gwyddom hefyd fod llawer o bobl hŷn yn ansicr ynghylch yr hawliau ariannol a allai fod ar gael iddynt, ac i ble y gallant fynd i gael help a gwybodaeth.

Dyna pam mae’r Comisiynydd wedi nodi gwybodaeth ddefnyddiol i ateb rhai o’r cwestiynau allweddol am y cymorth ariannol a allai fod ar gael i bobl hŷn i’w helpu drwy’r cyfnod anodd hwn.

Mae gan Age UK gyfrifiannell budd-daliadau rhad ac am ddim a all roi amcangyfrif o’r taliadau y gallai fod yn ddyledus i chi. Cewch ragor o wybodaeth yma.

Bydd dros wyth miliwn o gartrefi ledled y DU yn cael Taliad Costau Byw o £301 gan Lywodraeth y DU. Dyma’r cyntaf o hyd at dri thaliad ar gyfer y rhai sy’n gymwys i gael budd-daliadau ar sail prawf modd, gan gynnwys Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn a chredydau treth, sy’n gyfanswm o £900 yn ystod 2023/24.

Nid oes angen i’r rhai sy’n gymwys wneud cais na gwneud unrhyw beth arall er mwyn derbyn y taliad.

Bydd pobl yn gymwys i gael y Taliad Costau Byw os oedd ganddynt hawl i un o saith budd-dal rhwng 26 Ionawr a 25 Chwefror 2023. Dyma’r budd-daliadau cymwys:

• Credyd Cynhwysol;
• Credyd Pensiwn;
• Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm;
• Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm;
• Cymhorthdal Incwm;
• Credyd Treth Gwaith;
• Credyd Treth Plant

Dylai pensiynwyr ar incwm isel yn benodol wirio a ydynt yn gymwys i gael Credyd Pensiwn ai peidio, gan fod posibilrwydd y byddant yn dal i allu cael y Taliad Costau Byw o £301, yn ogystal â'r taliadau dilynol, os byddant yn gwneud cais llwyddiannus wedi’i ôl-ddyddio erbyn 19 Mai 2023.

Mae gan Age UK gyfrifiannell ddefnyddiol sy’n rhoi amcangyfrif o’r cymorth ariannol y gallech fod â hawl iddo.

I ddefnyddio’r gyfrifiannell, bydd angen i chi fod â gwybodaeth am eich pensiynau, incwm a chynilion.

Ewch i Gyfrifiannell Budd-daliadau Age UK

Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn rhoi grantiau i bobl sydd naill ai angen cymorth i fyw'n annibynnol, a elwir yn Daliad Cymorth i Unigolion neu i bobl sydd wedi wynebu argyfwng neu drychineb, a elwir yn Daliad Cymorth mewn Argyfwng. Nid oes angen talu’r grantiau’n ôl.

Gallwch gysylltu â’ch gwasanaeth Cyngor ar Bopeth lleol neu ffonio Advicelink Cymru am ddim ar eu llinell gymorth 0800 702 2020 i gael help i wneud cais am grant.

Cysylltwch â’ch Gwasanaeth Gofal a Thrwsio Cymru lleol ar 0300 111 3333.

Mae Gofal a Thrwsio Cymru yn rhedeg prosiect o’r enw 70+ Cymru sy’n ceisio gwella cynhesrwydd, cysur ac ansawdd bywyd pobl hŷn yng Nghymru. Gall Swyddogion Ynni yn y Cartref ymweld â chi a gweithio gyda chi i ddod o hyd i ffyrdd o gadw eich cartref yn ddiogel ac yn gynnes. Efallai y byddan nhw hyd yn oed yn gallu eich cyfeirio at raglen Nyth Llywodraeth Cymru i gael rhagor o gymorth a chefnogaeth os ydych chi’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd.

Dylech, fe ddylech chi wirio a ydych chi’n gymwys.

Gall Credyd Pensiwn ychwanegu at incwm person i isafswm o £182.60 yr wythnos ar gyfer pensiynwyr sengl ac i £278.70 ar gyfer cyplau. Gall hefyd sicrhau mynediad at amrywiaeth o hawliau eraill fel help gyda chostau tai, y dreth gyngor, biliau gwresogi ac, ar gyfer y rheini sy’n 75 oed neu’n hŷn, trwydded deledu am ddim.

Siaradwch â chynghorydd yn Advicelink Cymru ar eu llinell gymorth Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi am ddim ar 0808 250 5700. Gallant eich helpu i weld beth mae gennych hawl iddo a hyd yn oed drefnu i chi gael help i lenwi unrhyw hawliadau.

Fodd bynnag, gallwch hefyd ffonio Llinell Hawlio Credyd Pensiwn yn uniongyrchol ar 0800 99 1234 neu wneud cais ar-lein yn Credyd Pensiwn: Sut i hawlio - GOV.UK (www.gov.uk).

Cyngor a Chymorth

Cysylltwch â thîm Cyngor a Chymorth y Comisiynydd

Cysylltwch

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges