Mynd i’r afael ag Unigrwydd ac Ynysigrwydd yng Nghymru
Cyflwyniad
Gellir diffinio unigrwydd fel:
Sefyllfa a brofir gan yr unigolyn pan fo nifer (neu ansawdd) y perthnasoedd yn annymunol neu’n annerbyniol. Mae hyn yn cynnwys sefyllfaoedd lle mae nifer y perthnasoedd presennol yn llai na’r hyn sy’n ddymunol neu’n dderbyniol, a sefyllfaoedd lle nad yw rhywun wedi cael yr agosatrwydd y mae’n dymuno ei gael.
– Jenny De Jong Gierveld (1998).
Diffinnir ynysigrwydd cymdeithasol fel diffyg cysylltiad â phobl eraill, ac mae’n nodwedd gyffredin o unigrwydd. Mae hyn yn gallu arwain at amrywiaeth o broblemau negyddol o ran iechyd corfforol a meddyliol.
Er enghraifft, mae ymchwil yn dangos bod unigrwydd yn gallu cynyddu risg dementia 50%, strôc 32% a chlefyd y galon 29%.[1] Gall unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol hefyd gynyddu’r risg o farwolaeth gynnar o hyd at 26%.[2]
Mae mwy a mwy o gydnabyddiaeth bod unigrwydd yn fater allweddol i bobl hŷn ac yn flaenoriaeth i iechyd y cyhoedd. Er hyn, mae unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol wedi cael eu nodi fel un o themâu trawsbynciol Degawd Heneiddio’n Iach y Cenhedloedd Unedig[3], er enghraifft – mae llawer iawn o stigma o hyd sy’n ymwneud ag unigrwydd, ac mae hyn yn gallu bod yn rhwystr i bobl sy’n ceisio cymorth a chefnogaeth.
Pam y gall unigrwydd fod yn broblem benodol i bobl hŷn?
Mae achosion unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn gymhleth, a gallant amrywio ar gyfer gwahanol grwpiau oedran. Fodd bynnag, mae sawl digwyddiad cwrs bywyd sy’n gallu sbarduno unigrwydd yn cael eu cysylltu’n fwy cyffredin wrth fynd yn hŷn, fel profedigaeth, ymddeoliad, rhoi’r gorau i yrru, ymgymryd â rôl ofalu a salwch. Ochr yn ochr â hyn, mae effaith materion ehangach sy’n effeithio ar nifer sylweddol o bobl hŷn hefyd yn cynyddu’r risg y bydd pobl yn teimlo’n unig. Rhai enghreifftiau o’r materion hyn yw tlodi, diffyg trafnidiaeth gyhoeddus a cholli cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol.
Mae lefelau uchel o unigrwydd ymysg pobl o bob oed. Ond yn ôl Arolwg Cenedlaethol diweddaraf Cymru, mae bron i dri chwarter y bobl dros 65 oed (72%) yn dweud eu bod yn teimlo’n unig ‘weithiau’, ac mae 10% o bobl hŷn yng Nghymru – tua 91,000 o bobl – yn teimlo’n unig ‘yn rheolaidd’.[4]
Pwysigrwydd dull gweithredu sy’n pontio’r cenedlaethau
Roedd adroddiad ‘Llesiant Cymru’ gan Lywodraeth Cymru yn 2023 yn adolygu’r cynnydd yn erbyn y saith nod llesiant cenedlaethol. Ochr yn ochr â lefelau uchel o unigrwydd ymysg pobl hŷn yn ystod 2022-23, roedd yr adroddiad yn nodi bod y lefelau hynny yn arbennig o uchel ymysg pobl rhwng 16 a 24 oed hefyd.
Mae hyn yn tynnu sylw at pam mae dulliau pontio’r cenedlaethau o fynd i’r afael ag unigrwydd yn hanfodol, yn ogystal â phwysigrwydd cyfleoedd i bobl o wahanol genedlaethau ddod at ei gilydd a chefnogi ei gilydd.
Mae rhai enghreifftiau da o brosiectau sy’n canolbwyntio ar ddod â chenedlaethau at ei gilydd ac sy’n cael eu darparu yng Nghymru a all helpu i atal neu leddfu unigrwydd, fel y nodir isod:
Yr Hôb a Chaergwrle
Mae cymunedau Yr Hôb a Caergwrle yn Sir y Fflint yn ddaearyddol agos ac yn rhannu gwasanaethau, gan gynnwys siopau lleol, llyfrgell, meddygfeydd ac ysgolion.
Er mwyn gwella mynediad rhwng y ddwy gymuned, bu grŵp Pentrefi Alyn yn gweithio gyda swyddogion Hawliau Tramwy Cyhoeddus i ddatblygu taith gerdded hygyrch yn cysylltu’r cymunedau. Datblygwyd llwybr cylchol er mwyn galluogi pobl i fwynhau’r golygfeydd lleol, a gwnaed gwelliannau i’r llwybr er mwyn galluogi gwell mynediad ar gyfer pramiau a chymhorthion symudedd i bobl o bob oed gael ei ddefnyddio.
Erbyn hyn, mae’r llwybr yn cael ei ddefnyddio ar gyfer teithiau cerdded i bontio’r cenedlaethau, sy’n galluogi aelodau o’r gymuned i ymuno â thaith gerdded gyda disgyblion o’r ysgol gynradd leol.
Caffi Trwsio Caerdydd
Yng Nghaerdydd, mae pobl o bob oed yn dod at ei gilydd yn fisol yn y caffi trwsio yn Nhreganna i arbed eitemau o safleoedd tirlenwi ac i gymdeithasu.
Gall pobl ddod ag unrhyw beth sydd wedi torri i weld a oes modd i’r tîm trwsio gwirfoddol ei drwsio yn rhad ac am ddim. Mae’n rhoi cyfleoedd i bobl sgwrsio, cymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd dros baned o de neu goffi.
Polisi yng Nghymru
Cyn y pandemig, roedd cydnabyddiaeth gynyddol o unigrwydd a’i effaith ar iechyd y cyhoedd, ac roedd llywodraethau ledled y DU wedi addo amrywiaeth o gamau gweithredu drwy amrywiol strategaethau a chynlluniau. Roedd hyn yn cynnwys strategaeth gyntaf Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag unigrwydd – ‘Cysylltu Cymunedau’ – a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2020.[5]
Roedd y strategaeth yn nodi ymrwymiad i adeiladu sylfaen dystiolaeth gryfach am achosion unigrwydd a sut y gellir mynd i’r afael â’r rhain yn fwyaf effeithiol, ac addo camau gweithredu addawol ar draws pedwar prif faes blaenoriaeth, sef:
- Cynyddu’r Cyfleoedd i Bobl ddod i Gysylltiad â’i Gilydd.
- Seilwaith Cymunedol sy’n Cefnogi Cymunedau Cysylltiedig.
- Cymunedau Cydlynus a Chefnogol.
- Meithrin Ymwybyddiaeth a Hybu Agweddau Cadarnhaol
Roedd y strategaeth hefyd yn cynnwys ymrwymiad i gyhoeddi adroddiad bob dwy flynedd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd, er nad yw’n ymddangos bod adroddiad o’r fath wedi cael ei gyhoeddi hyd yma.
Hefyd, cyfeirir at fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol fel blaenoriaeth yn Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2021. Roedd y strategaeth yn cydnabod effaith unigrwydd ar lesiant corfforol a meddyliol pobl, a’r rhan hanfodol y gall cymunedau oed-gyfeillgar ei chwarae o ran atal a chefnogi.
Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod llawer iawn o fomentwm wedi cael ei golli oherwydd y pandemig, er gwaethaf arwyddion clir y gallai nifer sylweddol o bobl hŷn fod mewn perygl o unigrwydd erbyn hyn, fel yr edrychir arno yn yr adran isod.
Effaith y Pandemig Covid-19
Roedd y pandemig yn golygu nad oedd modd cael cyfleoedd i dreulio amser gyda ffrindiau a theulu, mynd allan i’r gymuned neu gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol. Roedd hyn yn gwneud i lawer o bobl hŷn deimlo’n arbennig o unig.[6]
Ochr yn ochr â hyn, yn anffodus rydym hefyd yn gweld dangosyddion sy’n awgrymu bod y pandemig yn cael effaith tymor hir a allai roi pobl mewn mwy o berygl o unigrwydd.
Er enghraifft, mae aelodau o grwpiau pobl hŷn ar hyd a lled Cymru wedi dweud wrth y Comisiynydd nad yw’r niferoedd sy’n mynychu grwpiau a chlybiau wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig. Yn yr un modd, mae pobl hŷn wedi dweud eu bod yn poeni am risgiau posibl i’w hiechyd, neu nad oes ganddynt yr hyder i fynd allan.
Mae tystiolaeth sy’n ymwneud â defnyddio’r tocyn bws rhatach yng Nghymru – yr amcangyfrifir ei fod wedi gostwng tua 50%[7] – hefyd yn dangos nad yw nifer sylweddol o bobl hŷn yn defnyddio gwasanaethau i’w cysylltu â’u cymunedau yn y ffordd yr oeddent cyn y pandemig, gan eu rhoi mewn perygl o unigrwydd ac ynysigrwydd.
Bydd rhagor o doriadau disgwyliedig i wasanaethau bysiau yn gwaethygu’r broblem hon, a bydd yn ei gwneud yn anoddach fyth i lawer o bobl hŷn fynd allan a gwneud y pethau sy’n bwysig iddynt.
Gwirfoddoli
Roedd gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o ddarparu amrywiaeth o gymorth mewn cymunedau ledled Cymru yn ystod y pandemig, a phobl hŷn oedd llawer o’r bobl a fu’n gwirfoddoli.[8]
Mae pobl hŷn yn cyfrannu’n sylweddol at wirfoddoli yng Nghymru. Yn ôl ymchwil gan Brifysgol Bangor, a gyhoeddwyd yn 2018, mae bron i draean o bobl 65 oed a hŷn yn gwirfoddoli mewn rhyw ffordd, ac roedd hyn yn werth tua £500 miliwn y flwyddyn i economi Cymru.[9]
Heb wirfoddolwyr, ni ellid darparu llawer o wasanaethau cymunedol gwerthfawr a gweithgareddau cymdeithasol sy’n helpu i atal unigrwydd. Dyna pam ei bod mor bwysig manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd gwirfoddoli, ochr yn ochr ag annog a chefnogi pobl o bob oed i wirfoddoli.
Byddai manteision o wella cyfleoedd gwirfoddoli yn ddeublyg: yn gyntaf, byddai’n helpu i sicrhau bod gweithgareddau a gwasanaethau sy’n darparu cymorth hanfodol yn gallu parhau i weithredu, yn enwedig wrth i bwysau cyllido parhaus barhau i gael effaith. Yn ail, byddai’n creu cyfleoedd newydd i bobl sy’n unig gymryd rhan mewn gweithgaredd newydd a chwrdd â phobl newydd.
Rôl Cymunedau Oed-Gyfeillgar
Mae cymunedau oed-gyfeillgar yn fannau lle mae pobl hŷn, cymunedau, polisïau, gwasanaethau, lleoliadau a strwythurau yn gweithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth er mwyn ein cefnogi ni i gyd i heneiddio’n dda, ac mae ganddynt rôl allweddol i’w chwarae o ran atal a lliniaru unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.
Mae cymunedau oed-gyfeillgar yn ein cefnogi i fynd allan, gwneud y pethau rydym eisiau eu gwneud, ac i fyw bywydau egnïol ac iach. Mae pob un o’r agweddau hyn yn helpu i’n hamddiffyn ni rhag unigrwydd ac effeithiau o unigrwydd.
O ran polisi, mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi nodi wyth nodwedd hanfodol, neu ‘feysydd’, o gymunedau oed-gyfeillgar, sy’n darparu fframwaith ar gyfer gweithredu:
- Adeiladau a mannau yn yr awyr agored
- Cludiant
- Tai
- Cyfranogiad cymdeithasol
- Parch a chynhwysiant cymdeithasol
- Cyfranogiad dinesig a chyflogaeth
- Cyfathrebu a gwybodaeth
- Cymorth cymunedol a gwasanaethau iechyd
Byddai bwrw ymlaen â gweithredu yn y meysydd polisi hyn a gwneud cymunedau mwy oed-gyfeillgar ledled Cymru yn helpu i fynd i’r afael â llawer o’r materion sy’n aml yn ategu neu’n atgyfnerthu unigrwydd ac ynysigrwydd. Byddai’r meysydd polisi hyn hefyd yn helpu i sicrhau bod pobl hŷn sy’n unig yn gallu cael gafael ar gymorth.
Mae’r Comisiynydd wedi gweld yr effaith gadarnhaol y gall y mathau hyn o fentrau ei chael yn uniongyrchol, a hynny drwy ei gwaith yn cefnogi awdurdodau lleol ledled Cymru i ddatblygu eu cynlluniau lleol oed-gyfeillgar a gwneud ceisiadau i ymuno â Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau Oed-Gyfeillgar[10]. Mae’r Comisiynydd yn aelod cyswllt o’r rhwydwaith.
Galw am weithredu
Fel y nodwyd uchod, mae unigrwydd yn fater allweddol sy’n effeithio ar gymdeithas. Er bod ymwybyddiaeth o’i effaith wedi codi’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae arwyddion yn dangos bod y pandemig wedi creu heriau newydd i lawer o bobl hŷn.
Byddai mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol o fudd i iechyd a lles unigolion, a byddai’n cefnogi’r agenda iechyd ataliol ehangach yng Nghymru. Mae hyn yn hanfodol i leihau’r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Felly, mae’r Comisiynydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r strategaeth unigrwydd a gyhoeddwyd yn 2020 er mwyn sicrhau bod y strategaeth honno’n adlewyrchu’r problemau a’r heriau sy’n wynebu pobl hŷn yn sgil y pandemig, ac yn nodi sut mae mynd i’r afael â’r problemau a’r heriau hynny.
Byddai adolygu a diweddaru’r strategaeth (os oes angen) yn helpu i sicrhau bod y camau sy’n cael eu cyflawni ledled Cymru yn dal yn briodol ac yn effeithiol. Bydd hyn hefyd yn sicrhau bod y camau yn ategu strategaethau a chynlluniau eraill, fel Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio, a byddai’n sicrhau ffocws o’r newydd ar fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd ar draws y llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus.
Mae’r Comisiynydd hefyd yn galw am ragor o gymorth i grwpiau a sefydliadau cymunedol a thrydydd sector sy’n helpu i atal unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol drwy eu gwaith, gan gydnabod y gwaith allgymorth a’r gweithgareddau hanfodol maen nhw’n eu darparu a’r rôl hollbwysig maen nhw’n ei chwarae o ran cefnogi iechyd, llesiant ac annibyniaeth pobl hŷn.
Ar ben hynny, mae gan bob un ohonom rôl i’w chwarae fel unigolion ac mae’r Comisiynydd yn annog pawb i feddwl am bobl rydym yn eu hadnabod yn ein bywydau ein hunain a allai fod yn unig, ac i gysylltu â nhw.
[1] Academïau Cenedlaethol y Gwyddorau, Peirianneg a Meddygaeth. 2020. Social Isolation and Loneliness in Older Adults: Opportunities for the Health Care System. Washington, DC: Gwasg yr Academïau Cenedlaethol. https://doi.org/10.17226/25663.
[2] Wang, F., Gao, Y., Han, Z. et al. A systematic review and meta-analysis of 90 cohort studies of social isolation, loneliness and mortality. Nat Hum Behav 7, 1307–1319 (2023). https://doi.org/10.1038/s41562-023-01617-6
[3] https://www.who.int/initiatives/decade-of-healthy-ageing
[4] Llywodraeth Cymru (2022) Arolwg Cenedlaethol Cymru Ebrill 2021 – Mawrth 2022 https://www.gov.wales/national-survey-wales-results-viewer
[5] Llywodraeth Cymru (2020) Cysylltu Cymunedau: Strategaeth ar gyfer mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol a chreu cysylltiadau cymdeithasol cryfach. Ar gael yn: https://www.llyw.cymru/unigrwydd-ac-ynysigrwydd-cymdeithasol-cysylltu-cymunedau
[6] Age UK (2021) Loneliness and Covid-19. Ar gael yn: https://www.ageuk.org.uk/globalassets/age-uk/documents/reports-and-publications/consultation-responses-and-submissions/health–wellbeing/loneliness-and-covid-19—december-2021.pdf
[7] CPT Cymru (2023) Y Ffordd Gymreig: Delivering franchised bus services the Welsh way. Ar gael yn: https://www.cpt-uk.org/media/tmvbjzkc/delivering-franchising-bus-services-the-welsh-way.pdf
[8] Centre for Ageing Better (2022) Age-friendly volunteering emerging from the pandemic. Ar gael yn: https://ageing-better.org.uk/blogs/age-friendly-volunteering-emerging-pandemic
[9] Bangor University (2018) Byw yn iach yn hirach: Y ddadl economaidd dros fuddsoddi yn iechyd a llesiant pobl hŷn yng Nghymru Ar gael yn: https://www.bangor.ac.uk/newyddion/archif/pobl-hyn-yn-helpu-tyfu-economi-cymru-37493
[10] https://comisiynyddph.cymru/blaenoriaethaur-comisiynydd/galluogi-pawb-i-heneiddion-dda/rhwydwaith-byd-eang-y-who-o-ddinasoedd-a-chymunedau-oed-gyfeillgar/