Mae’r papur briffio diweddaraf gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn amlygu canfyddiadau allweddol sy’n ymwneud â safbwyntiau a phrofiadau pobl hŷn o wasanaethau iechyd yng Nghymru, a gasglwyd fel rhan o arolwg ymchwil a gynhaliwyd yn ystod mis Mawrth 2023.
Gallwch hefyd ddarllen datganiad y Comisiynydd ar ei chanfyddiadau yma: https://comisiynyddph.cymru/newyddion/pwysau-ar-y-gig-yn-golygu-y-gallai-pobl-hyn-fod-yn-peryglu-eu-hiechyd-medd-y-comisiynydd/
Fel y gwelwch, dywedodd dros 40% o’r bobl a holwyd eu bod yn llai tebygol o ddefnyddio gwasanaethau meddygon teulu, gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau, a gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys, gyda 1 o bob 4 hefyd yn dweud eu bod yn llai tebygol o gysylltu â GIG 111.
Mae’r Comisiynydd yn poeni bod hyn yn golygu efallai na fydd nifer sylweddol o bobl hŷn yn gofyn am gymorth meddygol pan fydd ei angen arnynt, hyd yn oed mewn achosion a allai fod yn ddifrifol.
Mae’r Comisiynydd wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd i nodi ei phryderon, ac mae wedi galw am weithredu i sicrhau nad yw pobl hŷn yn cael eu hatal rhag cael y gwasanaethau iechyd sydd eu hangen arnynt.
Mae’r Comisiynydd hefyd am i bobl hŷn gysylltu â’i swyddfa i rannu eu profiadau o gael mynediad at wasanaethau iechyd, neu brofiadau aelodau o’r teulu neu ffrindiau; yn enwedig lle gallai’r pwysau sydd ar wasanaethau fod wedi atal rhywun rhag gofyn am driniaeth neu gael triniaeth.
Darllenwch bapur briffio'r Comisiynydd