Angen Help?

Amddiffyn pobl hŷn yng Nghymru: canllaw i’r gyfraith

i mewn Adnoddau, Taflen Wybodaeth

Mae’r ganllaw hon yn ceisio helpu ymarferwyr i fod yn fwy ymwybodol o’r gyfraith sydd ar gael i’w cefnogi yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Dydy’r ganllaw ddim yn cymryd lle cyngor cyfreithiol ac nid datganiad diffiniol o’r gyfraith mohono, ond mae’n cynnig trosolwg manwl, cyd-destun ac enghreifftiau buddiol o’r ffyrdd y gallant ddefnyddio’r gyfraith.

Hwn yw trydydd rhifyn y ganllaw, sydd wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu deddfwriaeth Gymreig ddiweddar, megis Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, ac mae’n sicrhau bod gan ymarferwyr yr wybodaeth ddiweddaraf wrth law.

Darllen Amddiffyn pobl hŷn yng Nghymru: canllaw i’r gyfraith

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges