Angen Help?
Image of a laptop wrapped in chains

Allgáu digidol yng Nghymru: mae cynnydd yn cael ei wneud – ond mae angen mwy, meddai’r Comisiynydd

i mewn Adnoddau, Ymchwil ac Adroddiad

Allgáu digidol yng Nghymru: mae cynnydd yn cael ei wneud – ond mae angen mwy, meddai’r Comisiynydd

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi cyhoeddi diweddariad sy’n tynnu sylw at y camau sydd wedi cael eu cymryd mewn ymateb i’w hadroddiad Dim Mynediad, a oedd yn pwyso a mesur effaith allgáu digidol ar fywydau pobl hŷn.

Canfu adroddiad y Comisiynydd, a oedd yn seiliedig ar brofiadau dros 150 o bobl hŷn o bob cwr o Gymru, fod mwy a mwy o bobl hŷn yng Nghymru mewn perygl o gael eu heithrio’n gymdeithasol a’u bod yn cael eu gadael ar ôl wrth i’r defnydd o dechnoleg ddigidol barhau i chwarae ran mwy blaenllaw yn ein bywydau bob dydd.

Roedd yr adroddiad yn cynnwys cyfres o argymhellion i helpu i warchod hawliau pobl i gael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau os nad ydynt ar-lein. Roedd yr argymhellion hyn wedi’u targedu at amrywiaeth o sefydliadau allweddol gan gynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd, Llywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus eraill a chwmnïau preifat.

Mae diweddariad2 y Comisiynydd yn nodi, er bod cynnydd yn cael ei wneud a bod mwy o ymwybyddiaeth o allgáu digidol erbyn hyn, mae angen i gyrff cyhoeddus ac eraill wneud mwy o lawer i sicrhau nad yw pobl nad ydynt ar-lein, neu bobl sydd heb lawer o sgiliau digidol, yn cael eu heithrio.

Bydd tîm y Comisiynydd yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill i sicrhau bod argymhellion yr adroddiad Dim Mynediad yn cael eu rhoi ar waith. Bydd hyn yn cynnwys craffu ar gynlluniau, polisïau ac arferion, yn ogystal â thynnu sylw at brofiadau pobl hŷn a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Mae sut rydyn ni’n cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau a sut rydyn ni’n cyfathrebu wedi newid yn sylweddol, yn enwedig dros y blynyddoedd diwethaf. Rydyn ni wedi cyrraedd pwynt lle mae bod ar-lein nid yn unig yn golygu bod rhai gweithgareddau’n haws, ond mae bron yn hanfodol bellach i’n galluogi i gymryd rhan mewn bywyd bob dydd a chyflawni tasgau angenrheidiol.

“Fel y nodais yn fy adroddiad Dim Mynediad, mae llawer o bobl hŷn yn wynebu rhwystrau digidol sylweddol. Mae hynny’n effeithio ar fwy a mwy o agweddau o fywyd bob dydd ac yn creu straen a phryder wrth ymgymryd â thasgau a oedd gynt yn syml.

“Rwy’n falch o weld o’r adroddiad bod cynnydd yn cael ei wneud mewn nifer o feysydd, fel gwella gwasanaethau ffôn a chyfathrebu ysgrifenedig, ac mae llawer mwy o ymwybyddiaeth ynghylch pam mae darparu opsiynau heblaw am atebion digidol mor bwysig i bobl hŷn a grwpiau eraill sydd mewn perygl o gael eu heithrio’n ddigidol.

“Ond mae angen gwneud llawer mwy i sicrhau bod pobl hŷn sydd ddim ar-lein yn gallu cael gafael ar y wybodaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Mae gan bob un ohonom hawl i hyn ac i beidio â derbyn gwasanaeth israddol.

“Dyna pam y bydd fy nhîm yn craffu ar gynlluniau, polisïau ac arferion, yn ogystal â gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus allweddol, gan gynnwys awdurdodau lleol a byrddau iechyd, i sicrhau bod fy argymhellion yn cael eu rhoi ar waith.

“Bydd fy nhîm hefyd yn parhau i dynnu sylw at effaith allgáu digidol ar bobl hŷn, yn ogystal â sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed er mwyn galluogi a chefnogi newid pellach fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.”

Darllenwch Adroddiad Diweddaru 'Dim Mynediad' y Comisiynydd

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges