Addewidion Credyd Pensiwn
Fel rhan o’i gwaith i gynyddu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn yng Nghymru, mae’r Comisiynydd am i unigolion a sefydliadau ledled Cymru wneud popeth a allant i helpu i sicrhau nad yw pobl hŷn yn colli’r cyfle i gael Credyd Pensiwn, ac i ymuno â hi i wneud Addewid Credyd Pensiwn i dynnu sylw at y camau y byddant yn eu cymryd – boed fawr neu fach.
Gallai hyn fod yn rhywbeth fel rhannu gwybodaeth am y Credyd Pensiwn a sut mae ei hawlio, neu gyfeirio pobl hŷn rydych chi’n gweithio gyda nhw at sefydliadau sy’n darparu cymorth a chefnogaeth.
Gallwch weld rhai o’r Addewidion sydd wedi cael eu gwneud yn barod isod, a chofiwch wneud eich Addewid Credyd Pensiwn gan ddefnyddio’r ffurflen ar waelod y dudalen, a byddwn yn ei rannu drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
“Rwy’n addo rhoi newid ar waith tuag at hawlio cymorth ariannol yng Nghymru, gan symud i ffwrdd o’r stigma traddodiadol, a mabwysiadu dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau. Drwy ein dull bod Pob Cyswllt yn Cyfrif, byddwn yn parhau i wneud safiad rhagweithiol ar ganfod cymhwysedd ar gyfer pob cymorth a fydd yn cynnwys budd-daliadau datganoledig a’r rhai sydd heb eu datganoli gan gynnwys Credyd Pensiwn.”
Mark Drakeford AS
Prif Weinidog Cymru
“Rwy’n ymrwymo i weithio gyda Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio, Swyddogion Oed-Gyfeillgar Awdurdodau Lleol a Grwpiau Pobl Hŷn a ariennir gan Lywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o Gredyd Pensiwn.”
Julie Morgan AS
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
“Rwy’n addo adnewyddu’r ymrwymiad i ddefnyddio ein grŵp gorchwyl a gorffen ar Gredyd Pensiwn fel ffordd o hwyluso trafodaeth gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau ar Gredyd Pensiwn a chynyddu’r nifer sy’n manteisio arno drwy ein rhwydweithiau o randdeiliaid ledled Cymru.”
Jane Hutt AS
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol
“Gwneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau bod pobl hŷn yng Nghymru yn cael yr holl gymorth y mae ganddynt hawl iddo.”
Dr Altaf Hussain AS
AS Gorllewin De Cymru
“Codi ymwybyddiaeth am Gredyd Pensiwn.”
Peredur Owen Griffiths AS
AS Dwyrain De Cymru
“Rwy’n addo gwneud fy ngorau i rannu gwybodaeth am Gredyd Pensiwn a sut i’w hawlio, ac i helpu unigolion sydd eisiau gwneud cais amdano.”
Ben Lake AS
AS Ceredigion
“Byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i fanteisio i’r eithaf ar Gredyd Pensiwn ledled Cymru. Mae hwn yn hawl i’n dinasyddion hŷn yng Nghymru sydd ar incwm cyfyngedig, ac nid ydyn ni eisiau i neb golli allan – yn enwedig yn ystod yr argyfwng Costau Byw!”
Huw Irranca-Davies AS
AS Ogwr
“Newid yr iaith a’r rhethreg sy’n ymwneud â budd-daliadau a chanolbwyntio ar hawliau.”
Cyfrannwr at yr Uwchgynhadledd Credyd Pensiwn
“Rhoi unrhyw reolau sefydliadol o’r neilltu cyn belled ag y bo modd er mwyn chwalu rhwystrau a chael Credyd Pensiwn yng nghyfrifon banc pobl.”
Cyfrannwr at yr Uwchgynhadledd Credyd Pensiwn
Defnyddiwch y ffurflen isod i wneud eich Addewid Credyd Pensiwn a helpu i sicrhau nad yw pobl hŷn yng Nghymru yn colli allan ar y Credyd Pensiwn y mae ganddynt hawl iddo. Neu gallwch lawrlwytho’r Cerdyn Addewid a rhannu llun ohonoch gyda’ch addewid ar ein tudalennau Twitter neu Facebook.
Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn estyn allan at bobl hŷn mewn cymunedau ledled Cymru a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i filoedd o fywydau drwy helpu i sicrhau nad yw pobl hŷn sy’n byw ar yr incwm isaf – llawer ohonynt ymhlith aelodau mwyaf agored i niwed cymdeithas – yn colli’r cymorth y mae ganddynt hawl iddo.